Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw gwefan Cymru1914.org ar gael oherwydd trafferthion technegol ac nid oes gan y Llyfrgell Genedlaethol yr adnoddau sydd eu hangen i'w hailddatblygu a'i chynnal.
Mae papurau newydd a chylchgronau cafodd eu digido fel rhan o'r prosiect ar gael ar Papurau Newydd Cymru a Cylchgronau Cymru. Mae modd i chi hidlo eich chwiliad yn ôl dyddiad er mwyn dod o hyd i erthyglau a rhifynnau o'r cyfnod.
Gallwch chwilio a gweld archifau a llawysgrifau cafodd eu digido gan y prosiect drwy Catalog Archifau a Llawysgrifau LlGC. Mae hyn yn cynnwys archifau a llawysgrifau sy'n cael eu cadw gan sefydliadau eraill a gyfrannodd at Cymru1914.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y wefan, cysylltwch â Gwasanaeth Ymholiadau LlGC os gwelwch yn dda.