Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae Summon™ yn caniatáu chwilio ymadrodd trwy ddefnyddio “ ”. Bydd chwilio “teacher education” yn adfer canlyniadau sy’n cynnwys yr ymadrodd hwnnw.
Mae’r blwch chwilio unigol yn Summon™ (blwch chwilio syml neu flwch chwilio allweddair os yn defnyddio chwilio manwl) yn chwilio dros lawer o feysydd yn awtomatig. Er enghraifft, bydd mewnosod ISBN, ISSN, neu rif silff yn adfer cofnodion cysylltiedig.
Gellir chwilio maes penodol yn unig trwy ddefnyddio’r gystrawen: “maes:(chwiliad).” Er enghraifft, mae’r chwiliad ISSN:(1234-5678), yn dod o hyd i gofnodion sydd yn cynnwys y wybodaeth honno yn y maes ISSN.
Meysydd chwiladwy:
Mae Summon™ yn cynnig y termau Booleaidd canlynol: OR, NOT a AND. Rhaid ysgrifennu’r termau mewn PRIF LYTHRENNAU DRWYDDI DRAW.
Yn ddiofyn, mae’r termau i gyd mewn chwiliad yn cael eu cyfuno gydag AND. Er mwyn ehangu’r set canlyniadau defnyddiwch OR. Bydd “microcircuits OR nanocircuits” yn adfer eitemau sydd yn cynnwys y naill derm neu’r llall.
Gellir cyfuno hyn gydag ymadroddion mewn dyfynodau megis “teacher education” OR “educator training”.
Er mwyn cau allan eitemau yn Summon™, defnyddiwch NOT neu “-” cyn y term. O ddefnyddio’r chwiliad canlynol “animal NOT dog” ni fydd y canlyniadau yn cynnwys y term “dog”.
Gellir chwilio o fewn Summon™ trwy ddefnyddio wildcards fel “?” a “*”.
Mae’r gofynnod (?) yn matsio unrhyw un lythyren a gellir ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i “Olsen” neu “Olson” trwy chwilio am “Ols?n”.
Bydd seren (*) yn matsio zero neu fwy o lythrennau o fewn gair neu ar ddiwedd gair. Byddai chwilio am “Ch*ter” yn matsio “Charter”, “Character”, a “Chapter”. O’i ddefnyddio ar ddiwedd gair fel “Temp*”, bydd yn matsio pob ol-ddodiad “Temptation”, “Temple” a “Temporary”.
Ni ellir defnyddio Wildcards fel llythyren gyntaf chwiliad.
Mae Summon™ yn gweithio gyda’r porwyr a’r ffonau canlynol: