Symud i'r prif gynnwys

Mawrth 2026

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

Diwrnod Rhyngwladol y Merched

08 Maw 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol gyda'r nod o roi llais i fenywod, gan dynnu sylw at faterion fel cydraddoldeb rhyw, cam-drin menywod, trais a hawliau atgenhedlu.

Gweld mwy

Diwrnod y Gymanwlad

Diwrnod y Gymanwlad

09 Maw 2026

Ers 1977, mae Diwrnod y Gymanwlad wedi cael ei ddathlu gan 56 o wledydd y Gymanwlad i feithrin gwerthoedd ac egwyddorion a rennir er mwyn sicrhau dyfodol heddychlon a chynaliadwy.

Gweld mwy

0

Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd

20 Maw 2026

Sefydlwyd y diwrnod hwn gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 28 Mehefin 2012; mae Diwrnod Rhyngwladol Hapusrwydd yn cael ei ddathlu ledled y byd i atgoffa pobl o bwysigrwydd hapusrwydd.

Gweld mwy

Ebrill 2026

Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd

World Autism Awareness Day

02 Ebr 2026

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn cael ei ddathlu’n flynyddol. Ar y diwrnod hwn mae aelodau’r Cenhedloedd Unedig yn cael eu hannog i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ac unigolion awtistig. Mae hyn er mwyn cynyddu ymhellach yr angen i wella ansawdd bywyd pobl sy'n byw gydag awtistiaeth.

Gweld mwy

Diwrnod Iechyd y Byd

Diwrnod Iechyd y Byd

07 Ebr 2026

Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn ddiwrnod ymwybyddiaeth iechyd byd-eang sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol. Mae'n cael ei hyrwyddo a'i noddi'n bennaf gan y Sefydliad Iechyd y Byd a sefydliadau eraill sy'n ymwneud ag iechyd.

Gweld mwy

Mai 2026

Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr

Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr

01 Mai 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ,a elwir hefyd yn Ddiwrnod Llafur, yn cael ei ddathlu'n flynyddol ar y diwrnod hwn. Mae'n coffáu cyfraniadau a brwydrau'r dosbarth gweithiol. Defnyddir y diwrnod hwn hefyd i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â gwaith megis iechyd a diogelwch, cyflogau teg ac amgylchedd gwaith ffafriol.

Gweld mwy

Diwrnod Cilgant Coch y Groes Goch y Byd

Diwrnod Cilgant Coch y Groes Goch y Byd

08 Mai 2026

Mae Diwrnod y Groes Goch/Cilgant Coch y Byd yn ddathliad blynyddol i anrhydeddu'r sefydliad a'i gyfraniadau dyngarol yn fyd-eang. Mae hefyd er anrhydedd i'w sylfaenydd, Jean-Henri Dunant, a aned ar y diwrnod hwn yn 1828.

Gweld mwy

Diwrnod Rhyngwladol Teuluoedd

Diwrnod Rhyngwladol Teuluoedd

15 Mai 2026

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Teuluoedd yn cael ei gynnal ar y diwrnod hwn yn flynyddol. Wedi’i gyhoeddi gyntaf gan gynulliad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1993, mae’n ymdrechu i fyfyrio ar a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd teulu fel sylfaen cymdeithas.

Gweld mwy

Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol Dros Ddeialog a Datblygiad y Byd

Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol Dros Ddeialog a Datblygiad y Byd

21 Mai 2026

Mae Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer Deialog a Datblygiad yn cael ei nodi i ddathlu amrywiaeth a chodi ymwybyddiaeth o faterion hiliaeth a gwahaniaethu. Cafodd ei gymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig yn 2002.

Gweld mwy

Mehefin 2026

Mis Balchder

Mis Balchder

01 Meh 2026 - 30 Meh 2026

Mae mis Balchder wedi'i neilltuo i ddathlu a choffáu'r LHDTC+. Dechreuodd ar ôl terfysgoedd Stonewall ym 1969 yn America. Yn y mis hwn cynhelir gorymdeithiau, cyngherddau a digwyddiadau amrywiol i godi ymwybyddiaeth am hawliau cyfartal a chyfiawnder pobl sy'n uniaethu fel LHDTC+.

Gweld mwy