Symud i'r prif gynnwys

Y Gŵr a roddodd Gymru ar y map

09.08.2018

Arddangosfa i goffáu un o wŷr blaenllaw cyfnod y Dadeni yng Nghymru

Ym mis Awst eleni, bydd 450 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Humphrey Llwyd (1527-1568), sy’n cael y clod gan rai am ddyfeisio Prydain. I ddathlu’r digwyddiad hwn bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n cynnal arddangosfa i ddangos rhai o’i weithiau ac i esbonio’r holl waith a gyflawnodd.

Ymysg y gwaith a gyflawnodd mae’r map cyntaf a gyhoeddwyd o Gymru fel gwlad, cyfieithu ‘Brut y Tywysogion’ i’r Saesneg, helpu i lywio’r Mesur ar gyfer cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg drwy’r Senedd, meithrin y syniad o Gymru fel cenedl, poblogeiddio hanes y Tywysog Madog yn darganfod America a bathu’r term ‘Ymerodraeth Brydeinig’. Yn ogystal â hyn i gyd bu’n gyfrifol hefyd yn anuniongyrchol am un o gasgliadau craidd y Llyfrgell Brydeinig, y Casgliad Brenhinol, trwy ei waith yn casglu llyfrau ar gyfer ei noddwr, Iarll Arundel.

Yn ystod ei fywyd cafodd ei ddisgrifio fel “the most famous antiquarius of all our country” ac fe’i disgrifiwyd gan ei fywgraffydd Anthony Wood fel “a person of great eloquence, an excellent rhetorician, a sound philosopher, and a most noted antiquary, and a person of great skill and knowledge in British affairs.” Disgrifiwyd ef gan Saunders Lewis fel “un o ddyneiddwyr pwysicaf Cymru a ffigwr allweddol yn hanes y Dadeni yng Nghymru”.

Yn ôl Huw Thomas, Curadur Mapiau yn y Llyfrgell:

“Mae Humphrey Llwyd yn un o wŷr cyfnod y Dadeni sydd wedi’i danbrisio fwyaf. Yn benodol, ef yw tad cartograffeg Cymru ac felly mae'n addas i ni goffáu’r digwyddiad hwn yma yn y Llyfrgell lle cedwir casgliad mor bwysig o’i waith.”

Cynhelir arddangosfa, Humphrey Llwyd y gŵr a roddodd Gymru ar y map, rhwng 20 a 31 Awst yn Ystafell Summers yn y Llyfrgell. Mae mynediad am ddim.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk