Symud i'r prif gynnwys

Wicipedia Cymraeg yn cyrraedd 100,000 o erthyglau

28.03.2018

Mae’r Wicipedia Cymraeg wedi cyrraedd y garreg filltir o gan mil o erthyglau. Cyrhaeddwyd y nifer aruthrol hon trwy ymdrechion miloedd o gyfrannwyr yn y 15 mlynedd ers sefydlu’r gwyddoniadur Ngorffennaf 2003.

Wicipedia, y gwyddoniadur ar-lein, yw’r wefan Gymraeg ei hiaith sy’n cael y mwyaf o ddefnydd, gyda 752,294 o dudalennau yn cael eu hagor bob mis ar gyfartaledd. Gall unrhyw un sydd ar y we greu a golygu ei gynnwys, a chyfrannu at sicrhau bod gwybodaeth ar amrywiaeth ddi-ben-draw o bynciau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r garreg filltir yn cael ei chyrraedd yr un wythnos â chyfarfod cyntaf Grwp Defnyddwyr Wicipedia Cymru, yr endid cyntaf i Gymru i gael ei gydnabod gan Sefydliad Wikimedia byd-eang.

Cynhaliwyd cyfarfod y Grwp Defnyddwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 27 Mawrth, a hynny’n dilyn cyhoeddiad y Llyfrgell y llynedd bod rol Jason Evans fel Wicipediwr Preswyl wedi ei droi yn barhaol fel Wicimediwr Cenedlaethol i Gymru. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol a Wikimedia UK wedi cydweithio’n agos ers 2015, yn benodol trwy gydariannu’r cynllun Wicipediwr Preswyl llwyddiannus, a thrwyr prosiectau Wici-Pop a Wici-Iechyd dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Ar 5-6 Gorffennaf bydd Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018, sef cynhadledd iaith Wicipedia hefyd yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell, ac yn canolbwyntio ar gefnogi ieithoedd Celtaidd, ieithoedd lleiafrifol a brodorol.

Mae pwysigrwydd Wicipedia i’r iaith Gymraeg wedi’i chydnabod gan Lywodraeth Cymru yn y Rhaglen Waith ar gyfer strategaeth Cymraeg 2050 ac mae mentrau Wici Môn a Wici Caerdydd yn enghreifftiau gwych o’r modd y gall Wicipedia fod yn sail i weithgareddau addysgol a chymunedol sy’n cefnogi’r iaith Gymraeg.

Dywedodd Robin Owain, Rheolwr Cymru Wikimedia UK:

“Mae cyrraedd 100,000 o erthyglau’n garreg filltir anferthol, mae cael ein cydnabod fel grwp swyddogol o fewn y teulu Wicimedia hefyd yn anferthol. Mae cyflawni hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol - cartref Wicipedia Cymru! - yn gyffrous iawn ac yn gosod cynsail cryf a chadarn i’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae cyrraedd y can mil o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg yn gamp y gallwn ymfalchio ynddi fel cenedl. Er budd Cymru a’r Gymraeg, mae’n hollbwysig fod y Wicipedia Cymraeg yn cynnwys erthyglau ar yr ystod ehangaf o bynciau ac, fel sefydliad sy’n diogelu a hwyluso mynediad at wybodaeth, mae’r Llyfrgell Genedlaethol falch iawn o gydweithio gyda’r gymuned i sicrhau ei fod yn adnodd cynhwysfawr a dibynadwy.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i olygyddion