Tlws eisteddfodol cynharaf Cymru’n ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol
03.07.2018
Am y chwe mis nesaf, bydd cyfle prin i weld tlws eisteddfodol cynharaf Cymru, sef telyn arian Eisteddfod Caerwys, mewn arddangosfa arbennig yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Ddydd Gwener, 6 Gorffennaf, bydd yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, yn agor drysau’r arddangosfa, sy’n cynnwys trysorau preifat yr Arglwydd Mostyn o Blasty Mostyn, sir y Fflint, ochr yn ochr â llawysgrifau gwerthfawr ddaeth o’r Plasty hwnnw, fis ar ôl Cadoediad 1918, pan brynwyd hwy ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol.
Yn 1523 a 1567, comisiynwyd penteulu Mostyn i drefnu dwy eisteddfod bwysig a gynhaliwyd yn nhref Caerwys yn sir y Fflint. Bwriad yr eisteddfodau hyn oedd didoli’r beirdd a’r cerddorion crwydrol ar y naill law, oddi wrth y crwydriaid a’r cardotwyr oedd yn bygwth cyfraith a threfn ar y llaw arall.
Dywed Statud Gruffudd ap Cynan, a luniwyd i reoli eisteddfodau, y dylid cydnabod ac anrhegu telynor gorau’r ŵyl gydag ariandlws, a oedd i’w osod ar ei delyn yn ôl pob tebyg. Yn 1523, Rhisiart ap Hywel o Fostyn a gafodd yr anrhydedd, ‘yn unol â braint ei hynafiaid, o roddi bathodyn y delyn arian i delynor gorau Gogledd Cymru’. Yn 1567, ei ŵyr William Mostyn gafodd ‘gyflwyno a rhoddi'r delyn arian’. Diogelwyd y delyn arian ym Mhlasty Mostyn ers hynny, ac mae yn awr ar fenthyg i’r arddangosfa trwy haelioni’r Arglwydd Mostyn presennol. Dyma dlws eisteddfodol cynharaf Cymru, a’r crair cynharaf y gallwn ei gysylltu ag unrhyw eisteddfod.
Mae’r delyn yn rhan o arddangosfa aml-gyfrwng sy’n dathlu canmlwyddiant dyfodiad y casgliad cyntaf o lawysgrifau gwerthfawr Plasty Mostyn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ym mhlith y trysorau a ddangosir y mae:
- Cronicl Elis Gruffudd, ‘y milwr o Galais’, sydd newydd dderbyn statws UNESCO fel un o drysorau diwylliannol pwysicaf y Deyrnas Gyfunol
- llawlyfr meddygol hynod a luniwyd tua 1488 gan y bardd Gutun Owain ym mynachlog Sistersaidd Glyn-y-groes, ger Llangollen
- casgliad o gerddi’r môr-herwr Tomos Prys o Blas Iolyn, fu farw yn 1634. Dywedir mai ef oedd un o’r rhai cyntaf i ysmygu’n gyhoeddus yn ninas Llundain.
Dywed Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr a Dirprwy Brif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
‘Mae hwn yn gyfle prin i ni fel Cymry gael gweld un o’n creiriau diwylliannol pwysicaf. Yn anaml iawn y bydd y delyn arian yn gadael diogelwch Plasty Mostyn, nad yw’n agored i’r cyhoedd. Dylid manteisio ar y cyfle eleni i ymweld â thrysor eisteddfodol sydd, wedi’r cyfan, yn hŷn na phob coron, cadair a regalia gorseddol a feddwn fel cenedl.’
Dywed Yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth y Cynulliad:
"Mae hwn yn gyfle gwych i ni ddathlu pwysigrwydd y casgliad pwysig hwn i ddatblygiad y Llyfrgell Genedlaethol pan brynwyd y llawysgrifau cyntaf gan y teulu Mostyn gan mlynedd yn ôl. Byddwn yn annog pobl i ymweld â'r Llyfrgell Genedlaethol i weld yr arddangosfa newydd hon sy'n llawn trysorau diwylliannol gyda stori ddiddorol i ddweud "
Bydd Arddangosfa Canmlwyddiant Llawysgrifau Mostyn i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol hyd 8 Rhagfyr 2018. Mae’n cynnwys llawysgrifau a llyfrau cynnar, ynghyd â detholiad o dirluniau Moses Griffith, yr artist o sir y Fflint y bydd yn ddau-ganmlwyddiant ei farw yn 2019. Darperir rhaglen gyflawn o ddigwyddiadau i gyd-fynd â thymor yr arddangosfa, i gynnwys darlithoedd cyhoeddus, teithiau tywys, a chynhadledd academaidd a drefnir gan Brifysgol Bangor.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk