Symud i'r prif gynnwys

Siopa Nadolig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

16.11.18

Ydych chi wedi dechrau siopa Nadolig eto? Os na peidiwch â phryderu, dewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru nos Iau, 6 Rhagfyr ble bydd cyfle i siopa, mwynhau gwledd o weithgareddau, bwyta a gwrando ar lais unigryw’r gantores Alys Williams.

Bydd y dathliadau yn dechrau am hanner dydd pan weinir cinio Nadolig traddodiadol yng Nghaffi Pen Dinas (un cwrs yn £8.00 a dau gwrs yn £12.00). Bydd nwyddau chwaethus ar werth yn Siop y Llyfrgell a thros 20 o stondinau gan artistiaid a chrefftwyr lleol.  Mwynhewch adloniant byw yng nghwmni Cerddorfa Iwcs a Hwyl ac Alys Williams & Osian Huw. Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu i ddenu cynulleidfa o bob oed! I’r rhai iau bydd Groto Siôn Corn am 5:00 tan 6:00pm, a gofod i fod yn greadigol neu i ysgrifennu llythyr i Siôn Corn, neu i’r rheiny sydd eisiau ymlacio dros ychydig o fwyd, bydd Caffi Pen Dinas yn gweini lluniaeth ysgafn o 5:30 - 6:30pm.

Bydd y Llyfrgell yn llawn bwrlwm y Nadolig ar y noson a bydd yn gyfle gwych i ddod o hyd i’r anrheg berffaith i’ch anwyliaid - neu’n esgus i dretio eich hun efallai?!

Os am drefnu bwrdd ar gyfer y cinio Nadolig cysyllter â 01970 632 548