'Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw’
09.11.2018
A ninnau ar drothwy Sul y Cofio, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LLGC) wedi cyhoeddi ar ei wefan Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl Rhyfel Mawr Sir Aberteifi. Gwnaed y prosiect Canmlwyddiant hwn yn bosib trwy grant o £10,000 gan raglen 'Y Rhyfel Byd Cyntaf: ddoe a heddiw’, rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL).
Daeth consgripsiwn i rym ym mis Ionawr 1916 trwy'r Ddeddf Gwasanaeth Milwrol a sefydlwyd tribiwnlysoedd sirol i ddelio ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r rhyfel am resymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol. Yn 1921, gorchmynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio holl gofnodion y tribiwnlys sirol; serch hynny mae cofnodion Sir Aberteifi wedi goroesi. Nawr mae'r archif yn gwbl unigryw yng Nghymru, ac un o'r ychydig o'i fath sy'n bodoli yn y Deyrnas Unedig.
Mae'r wybodaeth o fewn y cofnodion tribiwnlysoedd hyn yn cynnig darlun, dirdynnol ar brydiau, o amgylchiadau personol y rheini sy'n gwneud cais am eithriad, yn ogystal ag effaith y consgripsiwn ar gymunedau gwledig.
Dywedodd Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddoli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Roedd cyllid CDL yn galluogi staff LlGC i hyfforddi grwpiau cymunedol ar sut i ddefnyddio adnodd ar-lein, a ddatblygwyd yn ddiweddar gan LlGC, i drawsgriifio a mynegeio’r cofnodion. Diolch i ymroddiad dros 200 o wirfoddolwyr, gellir chwilio'r cofnodion yn awr yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad ac ati. "
Er mwyn cydnabod y cyfraniad y mae'r CDL a'i phrosiectau Rhyfel Byd Cyntaf wedi eu gwneud i'r Canmlwyddiant, gwahoddodd yr Adran Ddigidol, Cyfryngau a Chwaraeon CDL i enwebu pobl i fynychu'r Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol yn Abaty San Steffan ar 11eg o Dachwedd i goffáu canmlwyddiant y cadoediad.
O ganlyniad, bydd dau o wirfoddolwyr LlGC (a fu ymhlith y pum trawsgrifiwr uchaf o Gofnodion y Tribiwnlys) yn teithio i Lundain y penwythnos hwn i ymuno ag aelodau o'r teulu Brenhinol, arweinwyr crefyddol a gwleidyddol, yn ogystal â 300 aelod o'r cyhoedd sydd wedi cyfrannu at y Canmlwyddiant ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol, yn Abaty Westminster ar gyfer y gwasanaeth coffa arbennig hwn.
I weld Cofnodion Tribiwnlysoedd Apeliadau Rhyfel Mawr Sir Aberteifi, ewch i adran Archifau'r Oriel Ddigidol ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk