Symud i'r prif gynnwys

Pwy oedd ‘Y Dyn a Enillodd y Rhyfel?’

19.11.18

Arddangosfa ddigidol ar fywyd a gwaith David Lloyd George

A hithau’n gan mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n archwilio pwy oedd ‘Y Dyn a Enillodd y Rhyfel?’ mewn arddangosfa ddigidol newydd.

David Lloyd George (1863-1945) yw'r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed a bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth Cymru, Prydain ac Ewrop. Fel aelod seneddol o’r Blaid Ryddfrydol, fe ddaliodd amryw o swyddi o fewn y Llywodraeth, gan gynnwys swydd Canghellor y Trysorlys (1908-15), Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916). Ym mis Rhagfyr 1916, yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf, ddaeth yn Brif Weinidog, a bu yn y swydd tan 1922. Parhaodd yn aelod seneddol tan 1944.

Crëwyd arddangosfa David Lloyd George hon fel rhan o raglen Cymru'n Cofio er mwyn cyflwyno bywyd a gwaith David Lloyd George, yn arbennig felly ei gyfraniad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ynghyd a thestun cynhwysfawr yn trafod bywyd a gwaith David Lloyd George, mae’r arddangosfa’n cynnig mynediad at ystod o ddeunydd gwreiddiol sy’n cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Gellir pori llu o ffotograffau, gan gynnwys:

  • casgliad A. J. Sylvester (Ysgrifennydd Personol David Lloyd George),
  • casgliad o lythyrau a ysgrifennodd David Lloyd George at ei frawd William George,
  • clipiau fideo, dyddiadur a llythyrau oddi wrth Frances Stevenson, Ysgrifennydd Personol David Lloyd George o Gynhadledd Heddwch Versailles.

Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r arddangosfa newydd hon yn rhoi darlun o David Lloyd George y Gwladweinydd, a hynny ar un o adegau mwyaf cythryblus hanes modern ynysyoedd Prydain, a gweddill cyfandir Ewrop. Mae hefyd yn cynnig cipolwg ar fywyd personol un o feibion enwocaf Cymru ac yn cyflwyno’r amrywiaeth o ddeunyddiau yn ymwneud â Lloyd George sydd yma yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.”

Ychwanegodd Dafydd Tudur, Pennaeth Adran Mynediad Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Yr arddangosfa hon yw’r diweddaraf o nifer o adnoddau digidol sydd wedi’u cyhoeddi gan y Llyfrgell dros y blynyddoedd diwethaf i amlygu’r profiad Cymreig o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn eu plith, mae llawysgrif o awdl fuddugol Hedd Wyn ‘Yr Arwr’, Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, Cofnodion Tribiwnlysoedd Sir Aberteifi, portreadau milwrol D. C. Harries, a channoedd o eitemau ar wefan cymru1914.org. Mae gyrfa Lloyd George, a’i ran yn yr hanes fel Prif Weinidog, yn rhan o’r profiad Cymreig fel ag yr oedd profiadau’r rhai a oedd ar faes y gad, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Dolenni Defnyddiol

Cymru'n Cofio