Printiau Kyffin ar werth arlein
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhyddhau dros fil o ddelweddau o baentiadau o'u casgliad celf i'w prynu trwy wefan Art UK.
Art UK yw enw ar fenter Sefydliad Catalog Cyhoeddus i arddangos casgliad celf cenedlaethol y DU ar-lein. Mae'n galluogi prosiectau i: (i) ddigideiddio gwaith celf a gedwir mewn casgliadau cyhoeddus; (ii) arddangos delweddau o'r gwaith celf hyn ar-lein, ynghyd â gwybodaeth gefndirol berthnasol, fel eu bod ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd; a (iii) darparu llwyfan masnachol ar gyfer Casgliadau i gynhyrchu incwm trwy argraffu ar-alw, trwyddedu delweddau a gwerthu nwyddau.
Meddai Mererid Boswell, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Fel un o sylfaenwyr Art UK, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru o'r farn bod hwn yn lwyfan gwych i sefydliadau rannu casgliadau, ac i sicrhau bod y casgliadau hynny'n hygyrch trwy brynu trwy eu siop. Mae'r siop yn caniatáu amrywiaeth o opsiynau a phob un drwy glic botwm”
Meddai Camilla Stewart o Art UK:
"Mae casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru mor gyfoethog ac amrywiol ac mae’n ychwanegu at fwy na 200,000 o weithiau celf sydd eisoes ar gael ar Art UK. Yn fuan byddwn yn ychwanegu casgliad cerfluniau’r genedl. Bydd y cyntaf o tua 170,000 o gerfluniau'n ymuno â'r safle yn gynnar yn 2018. "
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk