Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Glan-yr-afon, Hwlffordd
15.11.18
Mae'n bleser gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi cydweithrediad newydd cyffrous gyda Chyngor Sir Penfro.
O fis Rhagfyr 2018 ymlaen bydd modd gweld casgliadau rhyngwladol, arwyddocaol ac eiconig o'r Llyfrgell Genedlaethol gan gynnwys llawysgrifau gwreiddiol, mapiau, archifau, ffilmiau, gwaith argraffedig a gwaith celf mewn oriel gelf newydd yng Nglan-yr-afon, Hwlffordd.
Bydd y datblygiad hwn yn rhan annatod o Ganolfan gelfyddydau a diwylliant o ansawdd uchel a fydd hefyd yn cynnwys Llyfrgell Sir newydd a gwasanaeth Gwybodaeth i Ymwelwyr yng nghanol tref Hwlffordd.
Mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Penfro, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn galluogi ac yn annog pobl i gymryd rhan weithredol yng nghelfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru. Bydd cyfres o ddigwyddiadau di-dal a gweithdai addysg yn cael eu cyflwyno i ategu’r rhaglen arddangosfeydd yng Nglan-yr-afon
Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Rydym wrth ein bodd ein bod yn rhan o'r prosiect newydd cyffrous hwn ar y cyd â Chyngor Sir Benfro. Mae estyn allan a gwella mynediad i'n cronfa helaeth o dreftadaeth ddiwylliannol, cynyddu ymgysylltiad â’r cyhoedd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol trwy ddiwylliant a rhannu gwybodaeth yn flaenoriaeth yng Nghynllun Strategol Cof y Genedl:Llunio’r Dyfodol 2017-2021. Edrychwn ymlaen at rannu ein casgliadau gyda phobl Sir Benfro a thu hwnt "
Bydd yr oriel yn cynnal rhaglen o arddangosfeydd thematig chwe misol sy'n arddangos casgliadau eiconig y Llyfrgell Genedlaethol, ac arddangosfa barhaol ar hanes, diwylliant a chwedlau Sir Benfro.
Y casgliad cyntaf i'w arddangos yn yr Oriel fydd Kyffin Williams: Tir a Môr.
Meddai Mike Cavanagh, Cyngor Sir Penfro:
"Rwy'n falch iawn o weld y Llyfrgell Genedlaethol yn dathlu ein diwylliant artistig trwy drefnu'r arddangosfa wych hon o waith Syr Kyffin Williams. Wrth gyflwyno ei baentiadau i'r Llyfrgell Genedlaethol, roedd yn eu cyflwyno fel rhodd i'r genedl, i fwynhau am byth. Yr wyf yn ddiolchgar i'r Llyfrgell am roi'r cyfle i'r cyhoedd weld y casgliad gwych hwn.
Rydym yn amcangyfrif y bydd 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn ymweld â’r Ganolfan newydd a 50,000 o ymweliadau â'r oriel.
Yn ogystal â'r oriel a'r gwasanaeth llyfrgell gyhoeddus, bydd y Ganolfan hefyd yn gweithredu fel gwasanaeth sy’n borth allweddol i Sir Benfro ac wedi'i leoli'n strategol yng nghanol y sir, gan ddarparu gwybodaeth i rai o'r 4.3 miliwn o dwristiaid sy'n ymweld â'r sir bob blwyddyn. "
I gyd-fynd â'r arddangosfa, trefnwyd amryw o ddigwyddiadau sy'n cynnwys:
Dydd Llun 11 Chwefror 2019 am 1.00pm
Syr Kyffin Williams ar Casgliad Cenedlaethol – Sgwrs gan Lona Mason (Pennaeth Graffeg, Sgrin a Sain) a Morfudd Bevan (Curadur Celf)
Dydd Gwener 1 Mawrth 2019 am 1.00pm
Chwarae ar eiriau: gweithdy gyda Ceri Wyn Jones
Sesiwn blasu yn edrych ar yr hwyl sy'n gysylltiedig â chreu syniadau, llinellau a phennau, sy'n addas i blant 7-11 oed.
Dydd Llun 15 Ebrill 2019 am 1.00pm
Gofalu am ein Casgliadau- gweithdy gan Iwan Bryn James (Pennaeth Cadwraeth)
Bydd ysgolion a sectorau addysg bellach yn gallu gwneud y defnydd gorau o'r adnodd newydd gwych hwn i wella dysgu ac mae gan y ganolfan rôl hanfodol wrth gyfrannu at adfywio economaidd Hwlffordd.
Bydd Glan-yr-afon hefyd yn cynnwys siop goffi a lle chwarae a dysgu ar gyfer plant. Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (10 am-5pm), ac eithrio dydd Mawrth (10 am-7pm).
Mae'r cyfleuster newydd wedi derbyn arian gan:
- Cyngor Sir Penfro
- Llywodraeth Cymru
- Sefydliad Wolfson
- Sefydliad Foyle
- Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
- Cyngor Tref Hwlffordd
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Arddangosfeydd
Stori Sir Benfro
Tan 11.05.19
Yng nghornel de-orllewinol Cymru mae sir o fynyddoedd garw ac arfordir dramatig, gyda’r môr yn ffin iddi ar dair ochr. Dyma Sir Benfro, gwlad y cestyll a’r cromlechi. Yn yr arddangosfa hon daw chwedlau hudol, hanes cythryblus a thirlun ysblennydd Sir Benfro yn fyw drwy gasgliadau amryfal ac unigryw Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Kyffin Williams: Tir a Môr
Tan 11.05.19
Arddangosfa sy'n coffáu canmlwyddiant un o'r ffigurau mwyaf enwog o fewn celf Gymreig - Syr Kyffin Williams. Wedi'i ysbrydoli gan dirwedd Cymru gydol ei oes, mae'r arddangosfa hon yn gyfle prin i weld rhai o dirweddau a morluniau mwyaf eiconig yr artistiaid ochr yn ochr â thrysorau o'r archif.