Symud i'r prif gynnwys

Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd

25.05.2018

Thema stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni fydd gwaith a bywyd yr arlunydd Kyffin Williams.

I ddathlu can mlynedd ers ei eni, ac i gydfynd ag arddangosfa fawr o’i waith celf, Kyffin Williams:Tu ôl i’r Ffrâm, sydd ymlaen yn Oriel Gregynog Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan Medi 1af, bydd staff Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell yn cyflwyno gweithgareddau i blant yn seiliedig ar baentiadau a darluniau’r artist enwog o Ynys Môn. Bydd paneli gwybodaeth yn adrodd hanes ei yrfa, a bydd pob plentyn sy’n ymwelyd â’r stondin yn cael copi o lyfryn lliw dwyieithog – yn rhad ac am ddim - yn son am fywyd Kyffin Williams. Gydol yr wythnos bydd cyfle i ymwelwyr ifanc gyfrannu at greu atgynhyrchiad o un o baentiadau Kyffin ar gynfas, tra’n dysgu am un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.

Ar ddydd Mawrth, Mai 29ain, bydd yr arlunydd profiadol, Catrin Williams, yn cynnal gweithdy a fydd yn canolbwyntio ar dechneg ac arddull Kyffin Williams, a bydd croeso i bawb ymuno yn yr hwyl rhwng 10:30yb a 4yp.

Bydd siop ar y stondin yn gwerthu cynnyrch sy’n seiliedig ar y nifer o weithiau celf a dderbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhoddion gan Kyffin Williams, yn ogystal ag amrywiaeth eang o nwyddau eraill a welir yn siop y Llyfrgell.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk