Symud i'r prif gynnwys

Helpwch y Llyfrgell Genedlaethol i ‘Ddatgloi Hanes Cuddiedig y Rhyfel Mawr’

19.01.2018

Rydym angen eich cefnogaeth gyda prosiect newydd cyffrous fydd yn dod â rhan o dreftadaeth guddiedig y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n cael ei chadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fyw i bobl Cymru a'r byd.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Gofnodion Tribiwnlysoedd y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi. Y rhain oedd y tribiwnlysoedd oedd yn ymdrin ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r rhyfel, am resymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol.

Yn 1921, gorchymynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio cofnodion y tribiwnlysoedd; serch hynny, goroesodd cofnodion Sir Aberteifi.  Erbyn hyn mae’r archif yn un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig.

Eleni, mae’r prosiect wedi ei dewis, yn un o bump yn unig trwy Brydain Fawr, i fod yn rhan o ymgyrch ‘Transcription Tuesday’ sy’n cael ei drefnu yn flynyddol gan y cylchgrawn ‘Who Do You Think You Are?’  Felly, ar Ionawr 23ain, rydym yn gwahodd gwirfoddolwyr trwy Gymru i gefnogi’r Llyfrgell trwy fynd ar-lein i drawsgrifio a mynegeio’r cofnodion fel bod modd eu chwilio yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad, ayb.
Bydd yr adnodd gorffenedig ar gael ar wefan LlGC i ymchwilwyr, haneswyr teulu ac i un rhywun sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth y Rhyfel Mawr. 

I fod yn rhan o ‘Transcription Tuesday’ cofrestrwch ar y ddwy wefan ganlynol:

Who Do You Think You Are Transcription Tuesday a'n Gwefan Torf

Cadwch gofnod o’r nifer o dudalennau unigol rydych yn eu trawsgrifio ac ar ddiwedd y dydd anfonwch ebost gyda’ch cyfanswm i rosemary.collins@immediate.co.uk

Pob lwc!!