Gweithdy paentio yn arddull Kyffin Williams ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl i ddysgwyr
16.04.2018
Bydd gweithdy paentio yn null Kyffin Williams ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl genedlaethol i ddysgwyr, Ar Lafar, a gynhelir rhwng 10.30am-4.00pm, ddydd Sadwrn, 21 Ebrill yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Bydd dysgwyr ar bob lefel a’u teuluoedd yn gallu mwynhau llu o weithgareddau eraill yn y Llyfrgell Genedlaethol, gan gynnwys teithiau tywys, gweithdai celf a chrefft, helfa drysor a sioe am yr ymfudo i Batagonia, gan gwmni theatr ‘Mewn Cymeriad’.
Bydd cyfle, hefyd, i ymwelwyr gymdeithasu, gan ddefnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chroesawgar a mwynhau’r trysorau cenedlaethol sydd i’w gweld yn y Llyfrgell.
Mae’r ŵyl rad-ac-am-ddim yn ffrwyth partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru.
Bydd ‘Ar Lafar’ hefyd yn cael ei chynnal ar dri o safleoedd yr Amgueddfa: Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ac Amgueddfa’r Glannau, Abertawe.
Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Pleser mawr yw cael croesawu gŵyl Ar Lafar i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae hon yn bartneriaeth gyffrous a fydd yn rhoi hwb i’r iaith Gymraeg drwy gynnig cyfleoedd anffurfiol i bobl sgwrsio yn y Gymraeg, a thrwy ddefnyddio ein diwylliant a threftadaeth gyfoethog fel modd o ysgogi diddordeb yn yr iaith.
“Fel sefydliad, rydym bob amser yn awyddus i annog a chefnogi siaradwyr Cymraeg, boed yn rhugl neu’n ddysgwyr, a mawr obeithiwn y bydd digwyddiadau fel hwn yn rhoi’r hyder i ddysgwyr defnyddio’r iaith Gymraeg yn gyfforddus mewn mannau cyhoeddus fel y Llyfrgell, beth bynnag bo’u gallu."
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
“’Dyn ni’n falch iawn bod Ar Lafar yn digwydd eto eleni, gyda hyd yn oed yn fwy o weithgareddau a sesiynau diddorol ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd. ‘Dyn ni’n falch hefyd o fedru parhau’r bartneriaeth gyda’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r Llyfrgell yn drysor cenedlaethol, a pha le gwell i fynd i ymarfer y Gymraeg, ac i brofi diwylliant a hanes Cymru.
“Mae’r ŵyl yn gyfle, hefyd, i ni dynnu sylw at yr ystod o gyrsiau Cymraeg sydd ar gael, ar bob lefel, ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys y cwrs ar-lein newydd ar gyfer y maes hamdden a thwristiaeth.”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i’r golygydd
- Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am bob agwedd ar y maes Cymraeg i Oedolion.