Symud i'r prif gynnwys

Galw ar Gymru i adnabod a chydnabod ei harwyr

05.11.2018

Mae’n hollbwysig ein bod ni fel cenedl yn cydnabod y dynion a'r menywod sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd Cymru a thu hwnt. Dyna yw neges Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar achlysur lansio gwefan newydd y Bywgraffiadur Cymreig, sy’n cynnwys bron i 5,000 o fywgraffiadau dynion a menywod sydd wedi gwneud cyfraniad o’r fath.

Bydd gwefan newydd y Bywgraffiadur yn cael ei lansio ar 8 Tachwedd 2018 gan Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn dilyn darlith ganddi yn trafod cyfraniad menywod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd Y Bywgraffiadur Cymreig mewn print yn wreiddiol gan Gymdeithas y Cymmrodorion a lansiwyd yr adnodd digidol gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2004. Mae’r wefan bellach yn cael ei chynnal gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru dan olygyddiaeth yr Athro Dafydd Johnston o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae’n adnodd cynhwysfawr ac awdurdodol ar gyfer defnyddwyr o bob cefndir ac ychwanegir erthyglau newydd yn gyson.

Mae’r wefan newydd yn cynnwys ffwythiannau ychwanegol yn ogystal â dyluniad a chynnwys newydd. Datblygwyd y wefan gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston a’r Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:

‘Mae’n hollbwysig ein bod ni fel cenedl yn cydnabod pobl a wnaeth gyfraniad gwerthfawr i fywyd Cymru yn ystod eu hoes, ac mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn adnodd cenedlaethol ar gyfer hynny. Saif y Bywgraffiadur ochr yn ochr â phrif adnoddau digidol eraill Cymru ac mae'n sicrhau bod cenedlaethau cyfoes ac i'r dyfodol nid yn unig yn gwybod am unigolion nodedig ond yn cael eu hysbrydoli ganddynt hefyd.'

Ychwanegodd yr Athro Dafydd Johnston, Golygydd y Bywgraffiadur:

‘Mae’r Bywgraffiadur yn adnodd gwych i athrawon ysgol, haneswyr lleol a theulu, darlithwyr a myfyrwyr, ac unrhyw un sy’n ymddiddori yn ein hanes i ddysgu am ein harwyr. Mae’n fodd iddyn nhw hefyd rannu’r wybodaeth honno gydag eraill, a thrwy hynny ddathlu cyfraniad y bobl hyn.’

‘Mae’r gwaith pwysig o hyrwyddo a chydnabod cyfraniad y bobl hyn yn parhau, ac mae’r we yn galluogi i bawb ohonom ni fod yn rhan o hynny.  Mae cyhoeddi’r Bywgraffiadur yn ddigidol a sicrhau ei fod ar gael i’w ddefnyddio yn rhad ac am ddim, yn galluogi i ni rannu yn ogystal â chyrraedd y wybodaeth. Gallwn hefyd gydweithio gyda defnyddwyr y Bywgraffiadur i adnabod y bobl hynny ddylai gael eu cynnwys ynddo, gyda’r nod o sicrhau bod bywgraffiadau newydd yn cael eu cyhoeddi yn brydlon a pharhaus.’

Cyfeiriad y wefan newydd yw bywgraffiadur.cymru

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Twitter: @Bywgraffiadur