Symud i'r prif gynnwys

Dathliad Gwirfoddolwyr

25.09.18

Daeth tyrfa dda o wirfoddolwyr o bell ac agos ynghyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Medi 19eg i ddathlu cwblhau’r prosiect cyntaf ar wefan cyfrannu torfol newydd y Llyfrgell.

Bu dros 200 o wirfoddolwyr ar-lein yn cefnogi’r Llyfrgell i ddatgloi hanes cuddiedig y Rhyfel Mawr trwy drawsgrifio a mynegeio Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi, sef y tribiwnlysoedd oedd yn ymdrin ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r rhyfel (am resymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol).  Yn 1921, gorchymynnodd y Llywodraeth y dylid dinistrio cofnodion y tribiwnlysoedd; serch hynny, goroesodd cofnodion Sir Aberteifi.  Erbyn hyn mae’r archif yn un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig.

Yn ystod y dathliad cafwyd dau gyflwyniad – y naill gan Rob Phillips, pennaeth Archifau a Llawysgrifau, yn olrhain hanes y Tribiwnlysoedd Apêl, a’r llall gan Dr. Dafydd Tudur, pennaeth Mynediad Digidol, ar sut y daw’r trawsysgrifau yn adnodd chwiliadwy ar wefan LlGC i ymchwilwyr, haneswyr teulu ac i un rhywun sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth y Rhyfel Mawr. 

Derbyniodd y prosiect nawdd ariannol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri; galluogodd hyn i staff a rhai o wirfoddolwyr y Llyfrgell i ymweld â chymdeithasau yng Ngheredigion i rannu hanes y cofnodion ac i gynnig hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r adnodd ar-lein.  Bu cyfle hefyd i gofnodi hanesion lleol am y Rhyfel Mawr ar lafar.

Mae’r wefan cyfrannu torfol yn adnodd hir dymor i gyflwyno casgliadau a thasgau amrywiol ar gyfer y cyhoedd.  Os oes gennych fynediad i’r we, ychydig o amser rhydd, a’r awydd i gefnogi’r Llyfrgell trwy gyfoethogi rhai o’r casgliadau cenedlaethol, ewch i:
Gwefan Torf

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk