Cynulleidfaoedd Ifanc i Gael Blas ar Gymru'r 21fed Ganrif ar Ffilm yn y Dosbarth
27.09.18
Lansio adnodd archifol arloesol ar gyfer Cyfnod Sylfaen hyd at Cyfnod Allweddol 4 sydd hefyd ar gael i gynulleidfaoedd ledled Cymru.
Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru (AGSSC) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), yn falch o lansio ‘r adnodd cyntaf erioed ar gyfer addysg ac arddagnos cyhoeddus sydd wedi ei seilio yn gyfangwbl ar ffilmiau archifol Cymreig, mewn partneriaeth gyda Ffilm Cymru Wales a Chanolfan Ffilm Cymru.
Mae’r ffilmiau yn dyddio o’r 1920au hyd y 1970au, ac mae AGSSC a LlGC yn gobeithio y bydd yr adnodd yn plesio cynulleidfaoedd ac ysbrydoli disgyblion ledled y wlad am flynyddoedd i ddod. Mae’n cynnwys:
- 34 ffilm fer mewn pecyn o 5 DVD, pob un yn cynnwys rhaglen thematig wedi’i churadu yn arbennig
- Pecyn adnoddau sy’n cysylltu â’r cwricwlwm, yn orlawn o syniadau ar gyfer gweithgareddau dosbarth (addas i’r Cyfnod Sylfaen hyd at Cyfnod Allweddol 4) a thrafodaeth grŵp, yn ogystal â nodiadau ar y ffilmiau eu hunain.
Daw’r 34 ffilm o gasgliad Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac maent wedi eu dethol yn arbennig i adlewyrchu’r themau canlynol:
- Cymuned a Chymdogaeth
- Byd Gwaith
- Gwyliau a Galifantio
- Dyddiau Ysgol a Chwarae
- Rhyfel a Heddwch
Mae synnwyr cryf o fan-a-lle yn ganolog i’r ffilmiau, sy’n rhoi cip ar fywyd Cymru o Ddolgarrog i Dre-biwt, ac o Lanferres i Landrindod. Mae’r pynciau yn amrywiol gyda chyfoeth o haenau, ac yn annog cymariaethau gyda bywyd yng Nghymru heddiw. Mae ‘Plant’, er engrhaifft, yn cynnwys ras egniol i fechgyn yn Aberystwyth (1920au), efaciwis petrus yn cyrraedd Machynlleth (1930au), bywyd mewn ysgol breswyl i ferched ym Mae Colwyn, a pharadwys plant ar fferm yn y gogledd (y ddwy ffilm olaf o’r 1950au).
Meddai Iola Baines, Curadur Delweddau Symudol yn AGSSC:
“Ein nod wrth lansio’r adnodd hwn yw cyflwyno pobl ifanc a chynulleidfaoedd y sgrîn i rai o’r trysorau cudd rydym yn eu diogeu yn yr Archif - ffilmiau unigryw sy’n dateglu cymaint o agweddau diddorol ar sut roedd y Cymry yn byw, gweithio a mwynhau eu hunain drwy’r 20fed ganrif. Fel staff yr Archif, rydym yn gwybod mor wych ydi ffilmiau fel rhain fel adnoddau i gefnogi dysgu ar draws nifer o bynciau, gan ddod â bywyd newydd a ffresni nid yn unig i hanes, ond i lu o bynicau eraill hefyd - felly roeddem yn awyddus i rannu’r neges a dangos sut mae’n gweithio!”
Mae AGSSC yn gobeithio y bydd yr adnodd hefyd yn cydio yn nychymyg trefnwyr rhaglenni sinemau a gwyliau ffilm ledled Cymru, gan gynnig cyfle i gynulleidfaoedd cyffredinol a chymunedol brofi peth o dreftadaeth ffilm gyfoethog Cymru ar y sgrîn fawr. Gallai pobl fwynhau ffilm fer archifol o flaen y brif ffilm, neu noson arbennig o ffilmiau ar thema benodol. Gallai ‘Dyddiau Ysgol a Chwarae’ fod yn addas i’r adeg yma o’r flwyddyn!
Eglura Iola:
“Rydym yn gweld hwn fel cyfle cyffrous i ysbrydoli cynulleidfaoedd o bob math - o selogion sinema sydd wrth eu bodd gyda’r sgrîn fawr, i aelodau o gymdeithasau hanes a phob math o grwpiau eraill - ac i gyflwyno rhywbeth sy’n wirioneddol unigryw ac ychydig yn wahanol i’r hyn mae pobl wedi arfer ei weld. Mae un peth yn sicr - mae’r ffilmiau yn rhyw fath o beiriant-amser fydd yn cludo gwylwyr nôl i’n gorffennol, gan sbarduno pob math o ymateb - o lawenydd i dristwch ac o ddwysfyfyrio i nostalgia pur…..’Falle dylen ni oll gofio dod â’n popcorn a’n hancesi poced!”
Mae’r teitlau yn amrywio o ffilmiau cynnar o ddigwyddiadau ar-y-pryd i ffilmiau cartref ac amatur, ac o gynyrchiadau hyrwyddo a hysbysebu i ddrama a ffilmiau dogfen. Mae rhai yn ffilmiau sain, tra bo eraill yn ddi-sain yn wreiddiol (rhai gyda rhyngdeitlau) gyda thrac cerddoriaeth wedi ei ychwanegu gan yr Archif. Mae isdeitlau ar y ffilmiau Cymraeg.
Meddai Hana Lewis, rheolwr Canolfan Ffilm Cymru:
“Mae’r adnodd trawiadol yma’n dangos mor hygyrch a hyblyg yw ffilm fel cymorth dysgu. Mae ganddon ni gyfle i ddysgu cynulleidfaoedd ifainc am gyfoeth hanes diwylliannnol Cymru ac i rannu straeon ar draws y cenedlaethau allai fel arall fynd yn angof. Wrthi i’n gweithleoedd a’n cefn gwlad a’n traddodiadau newid a datblygu ledled Cymru a’r byd, mae’n fwyfwy pwysig i ni gofio’n gorffennol.”
Meddai Nicola Munday, Rheolwr Cynulleidfa, Addysg ac Adfywio yn Ffilm Cymru Wales:
"Mae Ffilm Cymru yn falch o fod wedi cefnogi Archif Sgrin a Sain i ddatblygu'r adnodd hynod hwn ar gyfer pobl ifanc, gan ddwyn treftadaeth gyfoethog Cymru allan o'r Archif ac i'r sgrin fawr. Rydym yn parhau i fuddsoddi ym mhwysigrwydd addysg ffilm ledled Cymru, oddi mewn i'r dosbarth ac oddi allan. Gyda'r adnodd hwn bellach ar gael i ysgolion ym mhobman, gobaith Ffilm Cymru yw y bydd o help i genedlaethau'r dyfodol ymuno â ni i ddathlu hanes rhyfeddol Cymru ar y sgrin."
Am fwy o wybodaeth cysyllwch ag Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru ar 01970 632828 neu ebostio cymruarffilm@llgc.org.uk
Pecynnau DVD ar gael gan AGSSC i arddagnoswyr/sinemau ac i staff addysg – ffoniwch neu ebostio fel uchod am fanylion
Adnodd gyda gweithgareddau sy’n cysylltu gyda’r cwricwlwm - ar gael fel PDF i’w lawrlwytho o - Cymru ar Ffilm
Nodiadau i Olygyddion
ARCHIF GENEDLAETHOL SGRIN A SAIN CYMRU
Mae Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn diogelu ac yn dathlu treftadaeth delweddau symudol a sain Cymru, gan eu gwneud yn hygyrch i amrediad eang o ddefnyddwyr i’w mwynhau ac i ddysgu ohonyn nhw. Mae casgliad ffilm yr Archif yn adlewyrchu pob agwedd o fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwaith y genedl ar draws yr 20fed ganrif, gan roi darlun cyfareddol o hanes ffilmio yng Nghymru, yn amatur a phroffesiynol.
AM CANOLFAN FFILM CYMRU:
Nod Canolfan Ffilm Cymru ydy cyflwyno rhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Gyda’i leoliadau aelodau annibynnol, mae Canolfan Ffilm Cymru yn rheolaidd yn datblygu ffyrdd arloesol ar gyfer pobl yng Nghymru i fynd i’r sinema.
Mae Canolfan Ffilm Cymru (FHW) yn rhan o rwydwaith DU gyfan a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) i ffurfio Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), ac mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yn Nghymru. Ein nod ydy cyrraedd cynulleidfaoedd trwy ddatblygu’r sector arddangos, cynnig cefnogaeth prosiect ymchwil, hyfforddiant a datblygu cynulleidfaoedd. Ers sefydlu Canolfan Ffilm Cymru yn 2013 rydym wedi cefnogi dros 160 o brosiectau sinema a chyrraedd dros 302,500 o aelodau cynulleidfa
Mewn partneriaeth gyda’n sinemau aelodau, canolfannau celfyddydol, lleoliadau cymunedol, cymdeithasau, gwyliau ac ymarferwyr ffilm ehangach, nod Canolfan Ffilm Cymru ydy dathlu a chefnogi’r sector ffilm diwylliannol bywiog yma yng Nghymru, gan weithio gyda’n gilydd i ehangu a chynyddu dewis i gynulleidfaoedd, waeth lle maen nhw’n byw.
AM BFI:
BFI ydy’r corff arweiniol ar gyfer ffilm yn y DU gyda’r uchelgais o greu amgylchedd ffilm ffyniannus lle mae modd i arloesi, cyfleoedd a chreadigrwydd ffynnu trwy:
1. Cysylltu cynulleidfaoedd gyda’r dewis ehangaf o sinema Prydeinig a Byd
2. Cadw ac adfer y casgliad ffilm mwyaf arwyddocaol yn y byd ar gyfer heddiw a chenedlaethau’r dyfodol
3. Cefnogi gwneuthurwyr ffilm newydd ac o’r radd flaenaf yn y DU – buddsoddi mewn gwaith creadigol, arbennig ac adloniadol
4. Hyrwyddo ffilm a thalent Prydeinig i’r byd
5. Meithrin y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr a chynulleidfaoedd ffilm
Corff hyd braich y Llywodraeth ydy BFI ac mae’n ddosbarthwr cyllid Loteri i ffilm. Mae BFI yn cyflawni rôl gyhoeddus sydd yn cynnwys agweddau diwylliannol, creadigol ac economaidd ffilm yn y DU. Mae’n cyflawni’r rôl yma
1. Fel corff DU gyfan ar gyfer ffilm, elusen gyda chyllid craidd gan y Llywodraeth
2. Trwy ddarparu cyllid Loteri a Llywodraeth ar gyfer ffilm ar draws y DU
3. Trwy weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo safle ffilm yn y DU
Wedi’i sefydlu ym 1933, mae BFI yn elusen gofrestredig wedi’i llywodraethu gan Siarter Brenhinol
Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr BFI ydy Josh Berger CBE.
AM RHWYDWAITH CYNULLEIDFA FFILM BFI:
Mae Canolfan Ffilm Cymru yn bartner ffilm arweiniol Rhwydaith Cynulleidfa Fffilm BFI.
Mae Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN) BFI yn fenter arloesol sydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd ar draws y DU i weld amrediad ehangach o ffilmiau mewn sinemau. I wneuthurwyr ffilm mae cael ffilmiau ar sgriniau sinema yn fusnes hynod o gystadleuol, yn enwedig o ffilmiau arbenigol sydd yn cynnwys archif, ffilmiau dogfen, annibynnol ac ieithoedd tramor
Gyda £12 miliwn o gyllid y Loteri dros bedair blynedd (2018-20) mae FAN BFI yn gweithio gydag arddangoswyr ffilm, gwyliau ffilm, cymdeithasau ffilm, lleoliadau cymunedol, archifau ffilm a chyrff eraill yn eu rhanbarthau neu eu cenhedloedd i hybu cynulleidfaoedd ar gyfer ffilm ar draws y DU.
Mae’r partneriaid canolfannau ffilm sydd yn sbarduno ymgysylltiad cynulleidfaoedd ar draws y DU yn cynnwys: Broadway Cinema, Nottingham with Flatpack, Birmingham; Chapter, Caerdydd; Film London; Queen’s Film Theatre, Belfast; Glasgow Film; the Independent Cinema Office (ar gyfer de ddwyrain Lloegr East); Showroom Sheffield mewn partneriaeth gyda HOME, Manchester & Tyneside Cinema; a Watershed, Bristol.
AM FFILM CYMRU WALES
Ffilm Cymru Wales yw'r asiantaeth ddatblygu ar gyfer ffilm Cymreig. Rydym yn cefnogi datblygiad ffilm, cynhyrchu ffilm, addysg ffilm, arddangos ffilm, datblygiad busnes ffilm a datblygu gyrfaoedd gwenuthurwyr ffilm; rydym yn cynnig hyfforddiant a chyngor i rai sydd yn anelu at fod yn rhan o'r sector ffilm, neu yn barod yn gweithio ynddo, ac yn dadlau dros wneuthurwyr ffilm Cymreig a dros bolisi ffilm sydd yn gweithio i bobl Cymru.
Film Cymru Wales
PRYDAIN AR FFILM A DATGLOI TREFTADAETH FFILM
Mae Prydain ar Ffilm yn un o’r prosiectau archifol mwyaf a mwyaf cymhleth a gynhaliwyd erioed ac mae’n rhan o raglen Datgloi Treftadaeth Ffilm BFI (2013-17). Mae datgloi treftadaeth ffilm i bawb yn y DU i’w fwynhau yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r BFI, a Phrydain ar Ffilm ydy lansiad cyhoeddus rhaglen helaeth o waith sydd wedi mynd rhagddo am dros 3 blynedd. Gan ddwyn ynghyd bartneriaeth gydag Archifau Ffilm Rhanbarthol a Chenedlaethol a chasgliadau deiliaid hawliau ar draws y DU, mae’r gwaith yma wedi cynnwys rhaglen soffistigedig o ddal data, catalogio, copïo i safonau archifol, cadw deunyddiau gwreiddiol yn ofalus, chwilio’n drylwyr drwy archifau ar draws y wlad, yr offer diweddaraf a chyfleusterau cadw digidol a throsglwyddo ffilmiau i blatfform fideo ar-lein BFI, BFI Player.
Mae Datgloi Treftadaeth Ffilm a Phrydain ar Ffilm yn ddyledus i gyllid o £15 miliwn gan y Loteri Cenedlaethol a chefnogaeth ymchwanegol gan Sefydliad Esmée Fairbairn.