Symud i'r prif gynnwys

Campweithiau Mewn Ysgolion

25.04.2018

Heddiw, 25 Ebrill 2018  roedd disgyblion Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle ac Ysgol Gynradd Bro Lleu ym Mhenygroes, Gwynedd yn rhan o ddigwyddiad Campweithiau Mewn Ysgolion - un o brosiectau estyn allan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

I ddathlu canmlwyddiant geni’r artist Kyffin Williams, cafodd rhai o’i baentiadau sy'n ganolog i gasgliad celf y Llyfrgell Genedlaethol, eu cludo i Ddyffryn Nantlle i’w harddangos am y diwrnod mewn ysgolion. Tra’u bod yno, roedd y paentiadau drudfawr yma yn ganolbwynt i ddau weithdy celf dan ofal artistiaid profiadol; y naill ar gyfer disgyblion Blwyddyn 12&13 yn Ysgol Dyffryn Nantlle dan ofal Eleri Jones, a’r llall ar gyfer disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn Ysgol Gynradd Bro Lleu dan ofal Catrin Williams.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o strategaeth y Llyfrgell i estyn allan i gymunedau ar draws Cymru, a chefnogi cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, addysgol a chelfyddydol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’n gyfraniad creiddiol tuag at ymrwymiad y Llyfrgell i gefnogi rhaglen Llywodraeth Cymru Cyfuno: Creu Cyfleoedd trwy Ddiwylliant: 2017-2019, a chafwyd cefnogaeth Rhwydwaith Cyfuno Gwynedd i ddewis ysgolion ar gyfer y prosiect.

Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae'r paentiadau hyn sydd yn rai o'r miloedd o drysorau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn medru cynnig mynediad i blant a phobl ifanc at hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru. Mae'r digwyddiad heddiw yn dangos yn glir sut y mae modd ddefnyddio casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i symbylu gwaith creadigol, ac ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu a meithrin sgiliau newydd.”

Wrth weithio gyda’r paentiadau cafodd disgyblion y ddwy ysgol gyfle i ddysgu mwy am waith a thechnegau paentio Kyffin Williams, a chlywed mwy am fywyd yr artist a’r problemau iechyd y bu ef yn ymdopi â hwy gydol ei yrfa.

Dywedodd Dylan Owen, Pennaeth Adran Gelf Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle:

“Mewn cyfnod sy’n allweddol bwysig i fyfyrwyr celf y 6ed Dosbarth sy’n astudio ar gyfer Lefel A, rydym yn gwerthfawrogi pob cymorth sy’n cyfoethogi eu haddysg. Mae’r cyfle i weithio gyda phaentiadau gwreiddiol Kyffin Williams, a hynny dan arweiniad artist portreadau proffesiynol, yn rhoi profiad amhrisiadwy i’r myfyrwyr. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Llyfrgell Genedlaethol am ganiatáu’r mynediad hwn i’w chasgliadau er budd cynulleidfa iau – yn yr un modd ag y byddai’r artist ei hun wedi ei ddymuno, rwy’n siwr.”

Meddai Gerallt Jones Pennaeth Ysgol Gynradd Bro Lleu:

“Gyda chostau trafnidiaeth yn codi mae’n anodd cludo disgyblion i orielau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd ledled Cymru er mwyn iddynt fwynhau trysorau hanesyddol a chelf ein gwlad. Felly rydym yn ddiolchgar iawn am gyfle fel hyn sy’n galluogi disgyblion Ysgol Bro Lleu i gydweithio gyda darluniau gwreiddiol un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru.”

Meddai Saran  Edwards, Cydlynydd Rhwydwaith Cyfuno Gwynedd:

“Mae cynnig profiadau i gyffroi disgyblion ieuanc gyda chelfyddyd a diwylliant ein cenedl yn greiddiol bwysig i’r rhaglen Cyfuno, ac mae’r bartneriaeth yma rhwng Cyngor Gwynedd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn enghraifft wych o sut y gellir cyfuno adnoddau i wireddu hyn mewn ardaloedd difreintiedig.”
 

Gwybodaeth Bellach

Elin – Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
#Kyffin100

Nodiadau i Olygyddion

Partneriaid allweddol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:

  • 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
  • 950,000 o ffotograffau
  • 60,000 o weithiau celf
  • 1.5 miliwn map
  • 7 miliwn troedfedd o ffilm
  • 40,000 o lawysgrifau
  • 250,000 awr o fideo
  • 1,900 metr ciwbig o archifau

Mae gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn rhad ac am ddim i ddinasyddion Cymru ac nid ydyw’n gwahaniaethu ar sail gallu neu anallu i dalu. Mae croeso i blant a phobl ifanc o bob cefndir i ddefnyddio’r Llyfrgell a defnyddio’i gwasanaethau, boed hynny drwy ddod i Aberystwyth neu ar-lein. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnal gweithdai mewn ardaloedd ar draws Cymru sy’n ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau, ac sy'n cyflwyno'i chasgliadau i bobl ifanc, rhieni ac athrawon. Trefnir y gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr addysg, a sefydliadau ac ysgolion unigol gyda'r nod o sicrhau bod cymaint â phosib o blant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa o weithio gyda chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.

Gwasanaeth Addysg LLGC
Sefydlwyd Gwasanaeth Addysg LLGC yn 2002. Ei brif waith yw:

  • Cyflwyno rhaglen o weithgareddau addysgol o safon uchel sy’n hyrwyddo LlGC a’r casgliad cenedlaethol drwy’r cwricwlwm ysgol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru.
  • Hwyluso mynediad at wybodaeth i’r rhai mewn addysg ac addysgwyr, a’u cynorthwyo i gael y gorau o’n casgliadau drwy ddehongli gwybodaeth sydd yn y casgliad cenedlaethol.
  • Cynyddu presenoldeb y Llyfrgell, ac ymwybyddiaeth o’r sefydliad a’r gwaith mae’n gwneud, ar draws Cymru.
  • Cynorthwyo LlGC i gyflawni’r pum blaenoriaeth strategol yn Cof y Genedl: Llunio’r Dyfodol cynllun strategol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2017 - 2021.
  • Cynhyrchu adnoddau dysgu digidol o safon uchel sy’n cynorthwyo athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm yng Nghymru, a chyhoeddi’r rhain ar Hwb.
  • Rheoli prosiectau amrywiol sy’n cynnig mynediad at y casgliadau i blant, pobl ifanc ac oedolion.
  • Cyfrannu at gefnogi agenda cynhwysiad cymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb Llywodraeth Cymru drwy weithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ers 2007 mae gwasanaeth Addysg LlGC wedi bod yn cyflwyno casgliadau’r Llyfrgell mewn ardaloedd ar draws Cymru fel rhan o’i rhaglen estyn allan. Caiff y prosiectau hyn eu cynllunio a’u cyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau eraill, a’u teilwra i ateb anghenion y defnyddwyr, yn ogystal ag ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau.

Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle
Ysgol Dyffryn Nantlle
Ffordd y Brenin,
Penygroes,
Caernarfon,
Gwynedd
LL54 6AA
Mae Ysgol Dyffryn Nantlle yn darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion 11 - 19 mlwydd oed yn ardal Pen-y-groes, Gwynedd. Mae 12 o ddisgyblion Blwyddyn 12 &13 yn astudio celf Lefel A.

Ysgol Gynradd Bro Lleu
Ysgol Bro Lleu
Kings Rd,
Penygroes,
Caernarfon,
Gwynedd
LL54 6RL
Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Penygroes yw Ysgol Bro Lleu sydd wedi cael ei hadeiladu ar hen safle Ysgol Ramadeg Penygroes.

Kyffin Williams
Pan fu farw ym Medi 2006, gadawodd yr arlunydd Cymreig byd enwog, Syr Kyffin Williams, ran helaeth o’i ystâd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r gymynrodd yn cwmpasu’r gweithiau gwreiddiol a grëwyd gan yr artist, ei archifau, medalau, ynghyd â chasgliad bach o adar ac anifeiliaid mewn efydd. Mae’r casgliad yn cynnwys 1200 o weithiau ar bapur, 200 darlun olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol.

Eleni, i ddathlu canmlwyddiant geni Kyffin Williams, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfa o waith yr arlunydd yn ei phrif oriel, ac i gyd-fynd â hyn bydd Gwasanaeth Addysg y Llyfrgell yn cyflwyno gweithdai i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ystod mis Mawrth.