Symud i'r prif gynnwys

‘Y Pêr Ganiedydd’

13.10.2017

Dathlu William Williams Pantycelyn yn y Senedd

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 18 Hydref i ddathlu tri chan mlwyddiant geni prif emynydd Cymru ac un o’i beirdd a’i llenorion mwyaf, sef William Williams Pantycelyn.

Cefnogir y digwyddiad nodedig hwn gan  Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC., Prif Weinidog Cymru, a fydd hefyd yn annerch gwesteion yn ystod yr achlysur.  Noddir y digwyddiad gan Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC. Bydd côr staff y Llyfrgell Genedlaethol yn perfformio sawl trefniant cerddorol o emynau adnabyddus Pantycelyn yn ystod y digwyddiad, a bydd darlun newydd o William Williams o waith yr artist o Benarth, Ivor Davies yn cael ei ddadorchuddio.  Bydd yr Athro Wyn James hefyd yn sôn am fywyd a gwaith Pantycelyn.

Dywedodd Elin Jones AC., Llywydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Mae’n briodol ein bod ni fel Senedd yn cydnabod  cyfraniad William Williams Pantycelyn i fywyd y genedl. Roedd y gŵr arbennig hwn nid yn unig yn un o brif arweinwyr Diwygiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif ond hefyd yn fardd, emynydd a llenor digyffelyb sy’n haeddu llwyfan cenedlaethol ”.

Dywedodd Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yntau:

“Rydw i fel Prif Weinidog yn falch iawn o allu ymuno â’r Llyfrgell Genedlaethol heddiw i ddathlu bywyd a gwaith un o’n gwŷr disglair ac amryddawn sydd wedi gadael ar ei ôl gwaddol gyfoethog o emynau sy’n cael eu canu gan gynulleidfaoedd ar draws y byd ac mewn sawl iaith”.

Ychwanegodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd,  Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“O blith holl ŵyr a gwragedd ein hanes gellir dadlau yn hawdd mai William Williams, yn anad neb arall, sydd wedi dylanwadu fwyaf ar feddylfryd a meddwl y Cymry ers y ddeunawfed ganrif a bod ei weithiau – ynghyd â gweithiau ei gyfoeswyr diwygiadol - wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad radicaliaeth Gymreig sy’n parhau i ddylanwadu ar bolisi cymdeithasol yma yng Nghymru heddiw”.

Gwybodaeth pellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Bydd lluniau i’w cael yn dilyn y digwyddiad.

Nodiadau

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar fin cwblhau digido holl weithiau cyhoeddedig William Williams Pantycelyn sydd yn ei chasgliadau, fel eu bod ar gael i bawb ar y We am y tro cyntaf. Mae dros 90 o weithiau i gyd, yn cynnwys dros 4,000 o dudalennau. Byddant yn sail i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad y llenor a'r emynydd i fywyd Cymru a ledled y byd, ac yn adnodd gwych i unrhyw un sy'n astudio neu'n ymddiddori yn ei waith.