Symud i'r prif gynnwys

Y Blew, Jarman a Wicipop

03.02.2017

Gwobrau’r Selar yn dathlu’r presennol a’r gorffennol
Yn ogystal â dathlu llwyddiant y sin gyfoes, fe fydd Gwobrau’r Selar yn talu teyrnged ac yn dathlu treftadaeth y sin bop Gymraeg ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror.

Mae’r Gwobrau’n cael eu cysylltu’n bennaf â llwyddiant artistiaid cyfoes, ond eleni bydd cyfle i ddysgu mwy am seiliau yr hyn sydd gennym heddiw gyda chyfres o weithgareddau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd eisoes bod Geraint Jarman i dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar eleni, gan gydnabod ei gyfraniad aruthrol o bwysig i ganu cyfoes Cymraeg dros y 40 mlynedd diwethaf. Yn ogystal â pherfformio ym Mhantycelyn ar nos Wener 17 Chwefror, bydd Geraint yn cynnal sgwrs arbennig gydag Emyr Glyn Williams o Recordiau Ankst Musik ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Bydd ail sgwrs yn cael ei chynnal yn Y Drwm hefyd, wrth i Rhys Gwynfor holi Dafydd Evans o grŵp arloesol Y Blew – y grŵp roc electronig Cymraeg cyntaf a ffurfiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth union hanner can mlynedd yn ôl.

Bydd nifer o weithgareddau eraill yn y Llyfrgell yn ystod y dydd gan gynnwys arddangosfa o femorabilia Y Blew a Geraint Jarman sydd yng nghasgliadau’r Llyfrgell, teithiau tywys o’r archifau cerddoriaeth a sesiynau arbennig gan Wicipedia i annog pobl i gyhoeddi mwy o gynnwys am gerddoriaeth Gymraeg ar y gwyddionadur ar-lein.

Dysgu am hanes y sin
“Er mai dathlu llwyddiant y presennol ac edrych ymlaen i’r dyfodol ydy prif amcan Gwobrau’r Selar, rydan ni’n awyddus iawn i bobl sy’n dilyn y sin ddysgu mwy am yr hanes” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.

“Mae sefyllfa’r sin yn iach iawn ar hyn o bryd, ac yn gryfach nag erioed o safbwynt safon a dyfnder yr artistiaid. Ond dwi’n credu ei bod yn bwysig i bobl ddysgu am yr hyn sydd wedi arwain at y sefyllfa bresennol – mae’r datblygiad dros yr hanner can mlynedd ers i’r Blew arloesi trwy ffurfio fel grŵp roc Cymraeg yn rhyfeddol, ac mae’r sori’n un ddifyr dros ben.”

Wicipop
Ar hyn o bryd mae Wicipedia Cymru’n cynnal ymgyrch arbennig i gynyddu’r cynnwys a gwybodaeth am gerddoriaeth Gymraeg ar y gwasanaeth. Bydd sesiynau’n cael eu cynnal i gyflwyno pobl i’r gwasanaeth a sut i fynd ati i greu cynnwys pop Cymraeg o 10:00 ymlaen, ac mae paned a thamaid i’w fwyta i unrhyw un sy’n galw mewn.


“Mae Wicipop yn falch iawn o fod yn rhan o ddathliadau Gwobrau Selar ac mae croeso mawr i bawb fynychu’r ‘Golygathon’ Wicipop” meddai Jason Evans, Wicipediwr Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
“Dysgu sut i olygu Wicipedia, cyfoethogi’r cofnod o’r sin pop yng Nghymru a chyfle i fwynau pryd o fwyd am ddim yn y fargen!”


Cyfoeth cerddorol y Llyfrgell
Nid dim ond llyfrau sy’n Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth gwrs, mae casgliad eang o archifau ffilm, sain, celf weledol ac amrywiol eraill rhwng y muriau. Bydd teithiau tywys arbennig yn ystod y dydd yn rhoi cyfle i bobl gael blas o’r eitemau cerddorol difyr sydd yn yr archif.

“Mae cyfoeth o eitemau’n ymwneud â’r sin gerddoriaeth Gymraeg yma, ac mae’r teithiau tywys fydd yn digwydd am 11:30 a 15:30 yn gyfle gwych i gael blas o’r rhain” meddai Dan Griffiths o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

“Rydym hefyd yn paratoi arddangosfa fach aml-gyfrwng o eitemau Y Blew a Geraint Jarman yn benodol fydd i’w gweld rhwng Dydd Miwsig Cymru ar 10 Chwefror, a phenwythnos Gwobrau’r Selar.”
Bydd y gweithgareddau uchod i gyd yn digwydd rhwng 10:00 a 16:00 ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror, ac mae mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar a digwyddiad Facebook Gwobrau’r Selar.

Nodiadau i’r Golygydd

  • Mae Gwobrau’r Selar yn cael eu cynnal yn Aberystwyth ar benwythnos 17-18 Chwefror.
  • Bydd arddangosfa Y Blew a Geraint Jarman yn ymddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol o 10 Chwefror, sef Dydd Miwsig Cymru, nes 18 Chwefror.
  • Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Gwobrau’r Selar, cysylltwch ag Owain Schiavone – 07813050145 / yselarlive.co.uk
  • Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Wicipedia Cymru a phrosiect Wicipop cysylltwch â Jason Evans – 01970 632 405 / jason.evans@llgc.org.uk
  • Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chasgliadau cerddoriaeth y Llyfrgell Genedlaethol, cysylltwch â - Elin-Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
  • Rhagor o wybodaeth am prosiect Wicipop ar flog y Llyfrgell
  • Gwefan Y Selar