‘Wales on TV’ - Cyfres newydd yn cofio’r gorffennol
25.04.2017
Clasuron o'r 60au hyd canol y ganrif
Bydd cyfres bwysig o raglenni a fydd yn dwyn i gof brif storïau Cymru o'r 1960au hyd ganol y ganrif ddiwethaf yn dechrau heno ar ITV Cymru Wales [Dydd Mawrth, 25 Ebrill]
Bydd pob pennod o ‘Wales on TV’ yn cymryd cip olwg ar hanes dwy flynedd wahanol. Drwy gyfrwng ffilmiau archif clasurol o gasgliad ITV Cymru, bydd y gyfres yn ail ymweld â rhai o ddigwyddiadau mwyaf nodedig y blynyddoedd hynny, o'r byd chwaraeon i adloniant a diwylliant poblogaidd. Yn gefndir i'r lluniau bydd cerddoriaeth o siart bop y cyfnod yn sicr o ddod â llif o atgofion melys yn ôl i'r gwylwyr.
Bydd y gyfres 25 pennod yn cael ei darlledu bob nos Fawrth am 10:40pm dros y misoedd nesaf.
O Tom Jones i Catherine Zeta-Jones, decimali i ymweliad y Pab â Chymru, Mary Hopkin i'r trên stêm olaf, Laura Ashley i'r siop ryw gyntaf ac o Richard Burton i ddyn mwyaf anghariadus Cymru…. bydd Wales on TV yn dwyn i gof y storïau a'r traciau sain ar draws pum degawd, yn cynnwys yr ‘hits’ a gyrhaeddodd y penawdau.
Mae Wales on TV wedi cael ei gynhyrchu gyda chymorth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n gartref i raglenni archif helaeth ITV Wales Cymru.
"Mae archif ITV Wales yn drysorfa o atgofion ac mae Wales on TV yn argoeli i fod yn hiraethus, yn ddifyr ac dadlennol fel ei gilydd," meddai Jonathan Hill, golygydd rhaglenni Saesneg ITV Cymru Wales.
"Bydd gwylwyr hŷn yn gallu ail-fyw newyddion a digwyddiadau o ddegawdau a fu tra bydd gwylwyr iau yn cael blas ar fywyd yng Nghymru dros bum degawd eiconig y gorffennol.
"Rydym yn ddiolchgar i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eu cymorth gyda'r prosiect hwn ac am eu cefnogaeth wrth wneud yr archif wych hon ar gael i wylwyr ar draws Cymru a thu hwnt."
Meddai Owain Meredith, Archifydd ITV Cymru:
“Rydym yn falch iawn fod Archif ITV Cymru Wales sydd wedi ei leoli yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi cyfrannu clipiau ar gyfer y gyfres hon. Rhan fach o'r Archif fydd i’w gweld, wrth gwrs, ac mae croeso i unrhyw un gysylltu â'r Llyfrgell er mwyn dysgu mwy.”
Mae Wales on TV yn gynhyrchiad Barn Media i ITV Cymru Wales ac y mae’r cynhyrchu’n mynd rhagddo’n dda gyda'r llwyth cyntaf o raglenni bellach wedi eu cwblhau:
Pennod 1 (Ebrill 25). Mae'r gyfres yn agor yn 1968 - y flwyddyn y daeth Mary Hopkin yn seren recordio rhyngwladol, cyflwyno dodrefn pecyn fflat ac agor wal farwolaeth Ynys y Barri. Hefyd, mae'r rhaglen yn cofio diwedd streic y glowyr yn 1985, taith hwylio dyn o Geredigion o gwmpas y byd, a'r Rhufeiniaid yn dychwelyd i Gaerllion.
Pennod 2 (Mai 2). Rydym yn camu nôl i'r 1960au gyda chau rheilffordd yng Ngwynedd, paratoadau ar gyfer trawiad niwclear yn Sir Gaerfyrddin ac anhrefn eira i bawb. Hefyd o'r 1970au, y gaeaf o anfodlonrwydd, dyfodiad Margaret Thatcher a’r seren ffilm Richard Burton yn dychwelyd adref i Gwm Afan.
Pennod 3 (Mai 9). Y Gelli Gandryll yn datgan "annibyniaeth", Jiwbilî Arian y Frenhines a phartïon stryd yn cael eu trefnu ar draws Cymru, ac adeiladu yn dechrau ar adran newydd o'r M4. Hefyd yn 1989 - milwyr Cymreig yn dyst i gwymp wal Berlin, arwerthiannau DVLA o blatiau rhif personol, a sglefrfyrddio yn Caldicot.
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk