Pete Davis: Observations, Collections, Recollections. A Lifetime in Photography
Ar 4 Mawrth 2017 bydd arddangosfa arbennig o waith y ffotograffydd Pete Davis yn agor yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Mae hon yn Arddangosfa ôl-syllol o bwys o ffotograffau yn rhychwantu 60 mlynedd, ynghyd â gwaith newydd sy’n amlygu diddordeb oes y ffotograffydd gydag agweddau penodol o’r byd o’n cwmpas.
Meddai’r Ffotograffydd Pete Davis:
“Anaml iawn y daw’r cyfle i unrhyw unigolyn adolygu ac arddangos chwe degawd o waith. Mae’r arddangosfa hon, serch hynny, yn fwy na dim ond rhyw ‘edrych yn ôl’ hiraethlon, mae hefyd yn cynnwys gwaith newydd sy’n rhoi cipolwg ar sut y gall fy ffotograffiaeth ddatblygu ymhellach ac mae’n adeiladu ar syniadau a themâu blaenorol a fu o ddiddordeb i mi ar hyd y blynyddoedd.
Mae’r rhan fwyaf o’r prif weithiau a wnaed gen i ar hyd y blynyddoedd i’w gweld yn yr arddangosfa hon, yn ogystal â delweddau sydd heb eu gweld na’u printio erioed o’r blaen. Rwyf bob amser wedi ymserchu ym mhob agwedd ar fywyd, bron, a’m bwriad o'r cychwyn cyntaf oedd dal yr eiliadau a’r amgylchoedd diddrwg-didda hynny i bob golwg, a allai mor hawdd cael eu hanwybyddu oni bai fod llygad sympathetig yn sylwi arnynt. Y cam nesaf oedd casglu’r pethau hyn a aeth â’m bryd i gyrff cydlynol o waith sy’n sicrhau atgofion i’r dyfodol.”
Ymysg rhai o uchafwyntiau’r arddangosfa mae casgliad unigryw a hiraethus o luniau strydoedd Caerdydd yn y chwedegau hwyr a'r saithdegau cynnar, casgliad 'Great Little Tin Sheds of Wales’ a delweddau hardd o Gader Idris. Bydd tua 150 o ffotograffau sy’n tynnu sylw at yrfa y ffotograffydd yn cael eu harddangos ochr yn ochr â chasgliad personol hynod ddiddorol o gamerâu ac effemera o stiwdio'r ffotograffydd.
Ychwanegodd Linda Tomos Llyfrgellydd Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
'Rydym wrth ein boddau i arddangos gwaith Pete wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 70 oed. Mae'r rhain yn gofnod pwysig o ddiwylliant Cymru ac yn rhywbeth y dylid eu trysori ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol'
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf neu 01970 632471 post@llgc.org.uk
Digwyddiadau cysylltiedig
Agoriad Swyddogol:
Bydd yr arddangosfa yn cael ei hagor yn swyddogol ar y 4ydd Mawrth gan yr Athro Paul Hill, Prifysgol De Montfort.
Sgwrs Awr Ginio:
15.03.2017
1.15 p.m.
I gyd-fynd a’i arddangosfa yn y Llyfrgell, bydd Pete Davis yn dod i drafod ei waith a’r hyn sy’n dylanwadu arno – a’r modd y mae ei syniadau wedi datblygu o waith greodd yng Nghymru a thu hwnt.
Mynediad am ddim drwy docyn.
Arddangosfa:
Pete Davis: Observations, Collections, Recollections.
A Lifetime in Photography.
Mawrth 4, 2017 - 17 Mehefin, 2017
Oriel Gregynog
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Bywgraffiad:
Mae gwaith y ffotograffydd Cymreig Dr Pete Davis i'w weld mewn llawer o gasgliadau celf cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Museo Genna Maria, Sardinia, ac Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain.
Mae Pete wedi bod yn tynnu lluniau ers iddo fod yn unarddeg oed. Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Fodern Sblot yng Nghaerdydd yn bymtheg oed a gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, treuliodd ddeng mlynedd fel ffotograffydd hysbysebion a ffasiwn yng Nghaerdydd. Symudodd Pete i Orllewin gwledig Cymru yn 1977 ble cychwynnodd ar deithiau maes o amgylch Ynysoedd Prydain, Ewrop a'r Unol Daleithiau gyda'i gamera fformat mawr. Am ddeunaw mlynedd roedd Pete yn uwch ddarlithydd mewn ffotograffiaeth ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd ac am naw o'r blynyddoedd hynny ef oedd arweinydd y cwrs. Mae Pete bellach yn ddarlithydd gwadd mewn nifer o brifysgolion ac hefyd yn cymryd rhan gyda phrosiectau ffotograffig a chydweithrediadau ymchwil. Mae wedi derbyn sawl grant ymchwil ac ef oedd enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer artistiaid Cymreig yn 2002.
Mae Pete wedi bod yn ddarlithydd gwadd yn Karel De Grote-Hogeschool, Antwerp, Gwlad Belg, Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru yn Efrog Newydd, Academi Frenhinol y Celfyddydau, yr Hague, Yr Iseldiroedd, Prifysgol Toronto, ac yn y FotoMuseum, Antwerp. Mae hefyd wedi bod yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Mae ei arddangosfeydd rhyngwladol diweddar yn cynnwys Gŵyl Interceltique yn Lorient, Llydaw, Oriel Ryngwladol, Baltimore, UDA, yng Nghanolfan Celfyddydau Feick yn Poultney, Vermont, UDA ac yn y Fotomuseum, Antwerp. Mae Pete hefyd wedi bod yn artist preswyl ac yn cynnal dosbarthiadau meistr yng Ngholeg Polytechnig, Porto, Portiwgal, Green Mountain College, Vermont, UDA, ac fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Ulster, Belfast. Cwblhaodd ei PhD mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2009.