Symud i'r prif gynnwys

Penodi Ymddiriedolwyr newydd i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

01.02.2017

Mae Ken Skates AC. Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a Rhodri Glyn Thomas, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw bod tri Ymddiriedolwr newydd wedi’u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Mr Steve Williams a’r Llyfrgell wedi penodi Mr Gwilym Dyfri Jones a Dr Tomos Dafydd Davies. Bydd cyfnod gwasanaeth y tri yn cychwyn ar 1 Chwefror, ac yn parhau am bedair blynedd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:

"Rwy'n falch o gadarnhau penodiad Llywodraeth Cymru o Mr Steve Williams, fel ein Ymddiriedolwr newydd i fwrdd y Llyfrgell Genedlaethol. Rydym hefyd yn croesawu  dau benodiad arall gan yLlyfrgell Genedlaethol sef Mr Gwilym Dyfri Jones a Dr Tomos Dafydd Davies.

"Rwy'n edrych ymlaen i’r ymddiriedolwyr newydd ddechrau ar eu cyfnod o bedair blynedd yn y swydd ac yn croesawu'r ymrwymiad cryf a’r brwdfrydedd yr wyf yn siŵr y byddant yn ei roi i’w rolau newydd."

Ychwanegodd  Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell:

“Mae Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch i groesawu penodiad tri ymddiriedolwr newydd, Mr Steve Williams, Mr Gwilym Dyfri Jones a Dr Tomos Dafydd Davies.  Fe ddaw ein hymddiriedolwyr newydd â phrofiad ac arbenigedd gwerthfawr i’r Bwrdd, ynghyd ag ymrwymiad amlwg i werthoedd a dyheadau’r  Llyfrgell a gwn y bydd fy nghyd-ymddiriedolwyr yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant iddynt ar ddechrau eu cyfnod o wasanaeth.”

Cafodd Hugh Thomas ac Arglwydd Aberdâr eu hail apwyntio i ail dymor yn y swydd o 1 Tachwedd 2016.

Bywgraffiadau:

Gwilym Dyfri Jones
Brodor o Aberystwyth yw Gwilym ac fe’i magwyd o fewn tafliad carreg i’r Llyfrgell Genedlaethol. Bellach mae Gwilym yn Bro Is-ganghellor Cysylltiol ym Mhrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant â chyfrifoldeb am y Gymraeg a dwyieithrwydd. Mae ganddo chwarter canrif o brofiad o weithio o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithredu fel Pennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod ac, yn ddiweddarach, fel Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant yn y Drindod Dewi Sant. Cyn hynny, treuliodd gyfnod yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe, lle bu’n Bennaeth Adran y Gymraeg.     

Tomos Dafydd Davies
Mae Tomos yn Bartner Cysylltiol gyda chwmni Newgate Communications, cwmni cysylltiadau cyhoeddus corfforaethol yn Llundain, sy’n cynghori rhai o’r brandiau mwyaf yn y DU ynghylch eu neges gorfforaethol.
Cyn ymuno â Newgate, bu Tomos yn gynghorydd arbenigol i ddau Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru. Roedd ei feysydd cyfrifoldeb yn cynnwys llywio deddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig trwy’r senedd yn ogystal â chefnogi ymateb Llywodraeth y DU i’r argyfwng dur. Cyn hynny, bu’n uwch swyddog polisi yn swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg, a chafodd ei secondio i Whitehall i arwain arolwg Llywodraeth y DU o wasanaethau iaith Gymraeg.

Steve Williams
Mae Steve Williams yn Llyfrgellydd Prifysgol a Phennaeth Llyfrgelloedd, Archifau, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Abertawe. Yn dilyn arwain ar ddatblygiad Llyfrgell y Bae, ar y campws newydd gwerth £450 miliwn, Campws y Bae, mae Steve nawr yn canolbwyntio ar ddatblygu tri phrif faes gwasanaeth: Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe - ysbrydoli rhagoriaeth ysgolheigaidd trwy gasgliadau ymchwil a gwasanaethau cenedlaethol a rhanbarthol bwysig; Diwylliant a’r Celfyddydau - adeiladu ar lwyddiant Canolfan Celfyddydau Taliesin, yn enwedig trwy ddathlu ased diwylliannol mwyaf newydd y Brifysgol, y Neuadd Fawr ac Awditoriwm Syr Stanley Clarke; a’r Dyniaethau Digidol - trawsnewid casgliadau trwy gadwraeth ddigidol, gwasanaethau darganfod a chyflwyno ar draws casgliadau ymchwil a chasgliadau arbennig y Brifysgol.
Gyda gradd anrhydedd yn Rwsieg, a meistr mewn Meddylfryd Sustemau mae Steve yn Gymrawd o Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol ac Ymddiriedolwr Cymdeithas Llyfrgelloedd Colegau, Cenedlaethol a Phrifysgolion,ac yn aelod o Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru, ac mae'n eistedd ar bwyllgorau a grwpiau prosiect amrywiol y Brifysgol. Mae'n un o Lywodraethwyr Ysgol Gyfun Gwyr, ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg lleol.

Arglwydd Aberdâr
Mae diddordebau’r  Arglwydd Aberdâr yn cynnwys addysg a chyflogaeth, hanes Cymru a diwylliant, y celfyddydau (yn enwedig cerddoriaeth glasurol), canser y pancreas a materion cyfrifoldeb  corfforaethol.Bu'n gweithio fel ymgynghorydd mewn materion cyhoeddus corfforaethol a rheoli enw da, ar ôl 21 mlynedd gydag IBM, gan gynnwys cyfnodau yn yr Unol Daleithiau a Gwlad Belg. Mae’r Arglwydd Aberdâr yn Ddirprwy Raglaw Dyfed, lle mae ganddo gartref. Mae'n Ymddiriedolwr o St John Cymru - Wales, yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Caerdydd, ac yn Ymddiriedolwr y Gymdeithas Berlioz.

Mr Hugh Thomas
Cyn-Brif Weithredwr Cyngor Sir Morgannwg Ganol. Bu’n Glerc Awdurdod  Heddlu De Cymru, Ysgrifennydd i’r Arglwydd Raglaw ac Ysgrifennydd  Mygedol Cynulliad Siroedd Cymru. Cadeiriodd gyrff cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol ar lefel genedlaethol yn cynnwys y sector iechyd ac addysg uwch. Bu’n gyfarwyddwr anweithredol o Fwrdd Dŵr Cymru a chadeirydd Bwrdd Reoleiddio Cymru. Mae’n Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau a Ethig ac Is-gadeirydd Pwyllgor Archwilio Cyngor Caerdydd. Etholwyd Hugh yn Lywydd ac yn Gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n Brior Urdd Sant Ioan yng Nghymru. Anrhydeddwyd ef gyda CBE yn 1992. Bu hefyd yn Llys Gennad Mygedol Siapan yng Nghymru.

Cefndir
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn dal casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn ymddiriedolaeth ar ran pobl Cymru a darparu cyfeiriad strategol i waith y Llyfrgell.

Mae swydd Ymddiriedolwr yn mynnu isafswm ymrwymiad amser o hyd at 12 diwrnod y flwyddyn ar fusnes y Llyfrgell ac nid yw Ymddiriedolwyr yn derbyn tâl. Cynhelir saith cyfarfod Bwrdd yn flynyddol ac fe’i mynychir gan yr Ymddiriedolwyr. Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn rhai cyhoeddus. Gall Ymddiriedolwyr hefyd fynychu digwyddiadau a chyfarfodydd eraill ar ran y Llyfrgell.

Llywydd y Llyfrgell, sy’n cadeirio’r Bwrdd, yw Rhodri Glyn Thomas. Mae swyddogion penodedig eraill sydd ar y Bwrdd yn cynnwys yr Is-lywydd, swydd sydd yn wag ar hyn o bryd, a’r Trysorydd, Mr Colin John.

Mae gofyn i Ymddiriedolwyr gyflawni dyletswyddau ymddiriedolwr elusen, fel y’u diffiniwyd a’u cyflwynwyd gan y Comisiwn Elusennol. Yn ogystal, mae Ymddiriedolwyr yn ddarostyngedig i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan’ a’r canllawiau a gyhoeddir gan y Llyfrgell. Dylai Ymddiriedolwyr hefyd wybod am yr ymrwymiadau arnynt sy’n codi yn sgil statws y Llyfrgell fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhain wedi’u cyflwyno yn y Ddogfen Fframwaith, sy’n egluro’r Telerau a’r Amodau y mae’r Llyfrgell yn derbyn arian cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru drwyddynt.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk