Symud i'r prif gynnwys

Penodi Trysorydd ac Ymddiriedolwr newydd i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

21.07.2017

Mae Rhodri Glyn Thomas, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw fod Trysorydd newydd ac un Ymddiriedolwr newydd wedi’u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell.

Mae Mr Lee Yale-Helms wedi ei benodi yn Drysorydd,  Mi fydd cyfnod gwasanaeth Mr Lee Yale-Helms yn cychwyn ar 1af. Awst 2017, pan fydd cyfnod y Trysorydd presennol, Mr Colin John yn dirwyn i ben.
Mae Ms Eleri Twynog Davies hefyd wedi ei phenodi yn Ymddiriedolwr, a bydd ei chyfnod gwasanaeth yn cychwyn ar 1af Gorffennaf 2017.

Bydd cyfnodau’r ddau yn parhau am bedair blynedd.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas, Llywydd y Llyfrgell:

“Mae Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch i groesawu penodiadau Mr Lee Yale-Helms a Ms Eleri Twynog Davies. Mi fydd y ddau yn cynnig profiad ac arbenigedd gwerthfawr i’r Bwrdd a gwn y bydd fy nghyd-ymddiriedolwyr yn ymuno a mi i ddymuno pob llwyddiant i’r ddau ar ddechrau eu cyfnod o wasanaeth.”

Bywgraffiad

Lee Yale-Helms
Mae Mr Lee Yale Helms wedi ymgartrefu yn Nhreffynnon, Sir Fflint, ac yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cysylltiol i Wasanaethau Cynghori Ariannol CIPFA, ac mae hefyd yn ddarlithydd cysylltiol mewn cyfrifeg, cyllid ac economeg ym Mhrifysgol Manceinion.

Mae gan Lee brofiad o godi arian, gan gynorthwyo nifer o sefydliadau i ddenu cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Mae hefyd yn weithgar yn ei gymuned leol, yn codi arian i Gymdeithas Marchogaeth yr Anabl ac yn Drysorydd  tîm peldroed plant lleol.

Cyn symud i weithio i CIPFA, bu Lee yn gweithio i gwmni Pricewaterhouse Coopers, gan arbenigo mewn llywodraethiant corfforaethol, a chyn hynny, bu’n Uwch Gyfrifydd Technegol i Gyngor Sir Caer.

Eleri Twynog Davies
Yn enedigol o Lanbedr Pont Steffan, mae Eleri bellach yn byw yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin. Mae’n rhedeg cwmni theatr i blant - Mewn Cymeriad -  sy’n comisiynu a chynhyrchu sioeau i ysgolion a safleoedd treftadaeth wedi eu seilio ar gymeriadau o hanes Cymru. Mae Eleri hefyd yn Gyfarwyddwr Gŵyl Hanes Cymru i Blant - gŵyl flynyddol sy’n cydweithio gyda chyrff treftadaeth i lwyfannu sioeau a gweithdai am hanes Cymru mewn lleoliadau treftadaeth ar hyd a lled y wlad.

Bu Eleri yn Bennaeth Marchnata a Digwyddiadau i S4C am ddeuddeg mlynedd, gyda chyfrifoldeb am greu a gweithredu’r strategaeth farchnata, ynghyd a chyfrannu’n gyson i strategaeth ehangach y sianel. Mae Eleri hefyd wedi gweithio fel Swyddog Marchnata i Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac i Amgueddfa Cymru.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk