Symud i'r prif gynnwys

Ode to Museum Pieces

13.12.2017

Am 3pm ar ddydd Mercher 13 Rhagfyr bydd myfyrwyr ail flwyddyn o Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, yn perfformio gwaith tair rhan o’r enw Ode to Museum Pieces yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd y perfformiad yn ymateb i sgôr a gyflwynwyd yn wreiddiol yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan y cwmni theatr o Gaerdydd ‘Good News from the Future’, wedi ei gyfarwyddo gan Mike Pearson, â cherddoriaeth wreiddiol gan Samuel Barnes. Mae’r darn yn herio confensiynau cymdeithasol drwy ddod a chyrff at ei gilydd mewn ffyrdd anghyfarwydd mewn gofod lle na phrofir cyfarfyddiadau o’r fath fel arfer.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Y Dirprwy Lyfrgellydd Cenedlaethol:

"Roeddem wrth ein bodd yn croesawu Dr Ritchie a’i myfyrwyr i’r Llyfrgell. Mae hi wedi bod yn gyffrous iawn gweld y prosiect yn datblygu, a’r defnydd trawsnewidiol o drigfannau’r Llyfrgell. Tra’n bod ni’n gadwrfa ac yn gof cenedl, rydym ni hefyd yn le creadigol sy’n llunio’r dyfodol."

Meddai Dr Louise Ritchie, Prifysgol Aberystwyth:

"Mae hi wedi bod yn anrhydedd fawr i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru unwaith eto, ac i roi cyfle i’r myfyrwyr berfformio mewn gofod gwych yn yr adeilad eiconig hwn. Diolch am gefnogaeth holl staff y Llyfrgell sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Mwynhewch y perfformiad!"

Ymatebodd y myfyrwyr yn frwd i’r cyfle hefyd.

Dywedodd Jess Cox :

"Mae’n adeilad hardd, ac yn le na fyddem ni fel arfer yn gallu perfformio ynddo. Mae hi wedi bod yn wych i archwilio’r berthynas rhwng yr Amgueddfa Genedlaethol a’r Llyfrgell Genedlaethol."

Meddai Kai Bools:

"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn leoliad gwirioneddol eithriadol i weithio ynddo. Rydym ni’r perfformwyr wedi sianelu’r ysbrydion o fewn ei waliau."

A dywedodd Aneurin Britton:

"Fel Cymro balch, rydw i wedi caru’r cyfle i archwilio’r adeilad – mae rhywbeth arbennig iawn amdano. Rwy’n teimlo’n gartrefol iawn yn perfformio yma."

Mae hwn yn ddigwyddiad cyhoeddus am ddim – nid oes angen tocyn –ac fe fydd yn digwydd o amgylch y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod y diwrnod gwaith arferol a ddim yn effeithio ar ein gwasanaethau. Mae croeso i ddarllenwyr neu aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno dilyn y perfformiad i ymgynull yn y maes parcio o flaen y Brif Fynedfa ychydig funudau cyn 3pm.

Gallwch ddilyn y prosiect ar Twitter: @TFTS_NLoW

Gwybodaeth Bellach:
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk