Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno â’r IIIF-C
20.12.2017
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch iawn o fod yn ymuno â’r corff nodedig, yr International Image Interoperability Framework Consortium (IIIF-C), fel aelod sefydlol.
Bu i’r Llyfrgell fabwysiadu’r safon arloesol hwn yn gynnar, a nawr fel aelod byddwn yn ymuno â grŵp dethol byd eang o sefydliadau arweiniol .
Mae’r fframwaith hwn yn cael ei fabwysiadu’n eang gan sefydliadau diwylliannol er mwyn rhoi mynediad digidol cyhoeddus i ddelweddau, a’u rhannu ac ychwanegu nodiadau atynt.
Mae IIIF yn safoni’r modd y cyflwynir delweddau gwahanol sefydliadau gan ganiatáu i ddefnyddwyr ycasgliadau:
- Gymharu delweddau o sefydliadau gwahaol ochr yn ochr
- Ailgreu casgliadau ac eitemau a rannwyd ac sydd bellach mewn sefydliadau ar wahân
- Greu casgliadau newydd sydd yn cynnwys eitemau o sefydliadau gwahanol
- Gyfeirio at ardaloedd penodol delweddau
- Osod delweddau o fewn blogiau a gwefannau
- Ychwanegu nodiadau at ddelweddau at ddibenion addysg ac ymchwil
Mae defnydd newydd y Llyfrgell o’r safon IIIF hyd yn hyn wedi cynnwys y prosiect arloesol Papurau Newydd Cymru Arlein (papuraunewydd.llyfrgell.cymru) i ddigido 1.1 miliwn o dudalennau papur newydd, a hefyd prosiect Cynefin, sef y prosiect torfoli a geogyfeirio a wnaeth ganiatáu i’r cyhoedd gyfoethogi mapiau degwm Cymru a luniwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prosiect cyffroes nesaf y Llyfrgell fydd darparu llwyfan torfoli dwyieithog i’r cyhoedd a wedi’i seilio ar safonau agored, gan gynnwys IIIF.
Bydd dod yn aelod sefydlol o IIIF-C yn ategu cynllun strategol newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer 2017-2021 Cof y Genedl: Llunio’r Dyfodol sy’n amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol i ddyblu nifer yr eitemau digidol sydd ar gael i’r cyhoedd erbyn 2021.
Bydd y Llyfrgell yn gweithio gyda sefydliadau diwylliant etifeddol ac ymchwil eraill sydd hefyd yn aelodau sefydlol gan gynnwys llyfrgelloedd Prifysgol Stanford, Llyfrgell y Bodley Prifysgol Rhydychen, y Wellcome Trust, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a’r Llyfrgell Brydeinig.
Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r Llyfrgell wrth ei bodd yn ymuno â Chonsortiwm IIIF fel aelod sefydlol. Mae hyn yn dangos eto ein hymrwymiad i rannu ein casgliadau gwych gyda phobl Cymru a thu hwnt ac i weithio mewn partneriaeth er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n defnyddwyr. Mae’r Llyfrgell wedi bod yn arweinydd yn y maes hwn ers sawl blwyddyn bellach ac edrychwn ymlaen at gydweithio gydag eraill er mwyn adeiladu ar ein llwyddiant wrth arfer y safon IIIF.”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk