Symud i'r prif gynnwys

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno ag Awr Ddaear WWF

20.03.2017

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi cefnogaeth unwaith eto i Awr Ddaear y dathliad byd eang blynyddol o’r blaned.

Am 8.30pm nos Sadwrn 25ain o Fawrth 2017 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymuno ag adeiladau a strwythurau amlwg ledled y byd fel y Senedd ym Mae Caerdydd, Pont Harbwr Sydney a
Times Square yn Efrog Newydd, trwy ddiffodd y goleuadau.

Mae oddeutu hanner miliwn o bobl yng Nghymru’n cymryd rhan yn Awr Ddaear bob blwyddyn, a thrwy gymryd rhan, maen nhw’n dangos eu bod eisiau gweld gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn awr.

Dywedodd Huw Thomas, Pennaeth Ystadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gefnogi Awr Ddaear WWF unwaith eto eleni. Mae gan sefydliadau adnabyddus fel ni ran fawr i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiffodd y goleuadau yn y Llyfrgell am 8.30pm ar nos Sadwrn 25 Mawrth i ddangos ein cefnogaeth”

Ychwanegodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cefnogi Awr Ddaear WWF eto eleni. Bydd y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith enfawr ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac o gwmpas y byd. Felly mae’n wych bod sefydliadau Cymreig cefnogi’r alwad am weithredu i fynd i’r afael ag ef.

Gall pawb o unigolion a grwpiau cymunedol i ysgolion a busnesau gofrestru ar gyfer Awr Ddaear trwy fynd i dudalen Awr Ddaear ac yna diffodd eu goleuadau am 8.30pm ar nos Sadwrn 25 Mawrth
2017.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i olygyddion

Awr Ddaear
Awr Ddaear yw’r ardystiad mwyaf yn y byd o gefnogaeth i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl ledled y byd yn dod ynghyd i alw am weithredu i warchod ein planed wych. Mae’r dathliadauwedi tyfu bob blwyddyn, gan ledu o gwmpas y byd, a llynedd cymerodd 178 o wledydd ran, nifer sy’n record.

Diffoddodd adeiladau a strwythurau eiconig ar draws y Deyrnas Unedig eu goleuadau, o Big Ben a Phalas Buckingham, i Brighton Pier a Chastell Caeredin, gan ymuno â’r miliynau o ddathliadau Awr
Ddaear. Ac mae’n argoeli mai’r noson eleni fydd y fwyaf eto gan ei bod yn nodi 10 mlynedd ers dechrau Awr Ddaear. Yn 2017 cynhelir Awr Ddaear ar 25 Mawrth rhwng 8.30pm a 9.30pm.

Awr Ddaear

WWF
WWF yw un o sefydliadau cadwraethol annibynnol mwyaf y byd, gyda mwy na phum miliwn o gefnogwyr a rhwydwaith byd eang sy’n weithredol mewn mwy na chant o wledydd. Trwy ein hymwneud â’r cyhoedd, busnesau a llywodraethau, rydym yn canolbwyntio ar ddiogelu byd natur, gan greu atebion i’r problemau amgylcheddol mwyaf difrifol mae ein planed yn eu hwynebu, er mwyn i bobl a natur ffynnu. Cewch wybod mwy am ein gwaith, yn y gorffennol a’r presennol ar wefan y World Wildlife Fund.