Symud i'r prif gynnwys

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn achub llawysgrifau o arwerthiant Glyn Cywarch

02.06.2017

Mewn arwerthiant hanesyddol yn Llundain ar 29 Mawrth, pan fu i gynnwys Glyn Cywarch – sef eiddo Arglwydd Harlech gael ei werthu yn Bonhams, Llundain, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth nifer o lawysgrifau gwerthfawr a lluniau ar gyfer y Genedl.

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys: Ormbsby Gore Journal 1854, tri Llyfr Hela dau gatalog o gynnwys y Llyfrgell hanesyddol yn Brogyntyn (Porkington) a thri dyfrlliw gan Moses Griffith.

Roedd llawer o ddiddordeb ymlaen llaw yn y  llwyth oedd yn cynnwys 3 cyfrol o Lyfrau Hela Arglwydd Harlech (1882-1925) ac mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar i grŵp o adaregwyr am eu cefnogaeth ariannol i brynu’r eitemau hanesyddol yma. Mae'r Llyfrau Hela yn cofnodi hela yn Brogyntyn, ac ystadau eraill yng Nghymru a'r Alban, gan nodi rhai oedd yn bresennol, fel yr Arglwydd Harlech, Arglwydd Kenyon, Syr W. Wynn a Mr Gore. Maent yn nodi beth a saethwyd yn Brogyntyn gan amrywio o flwyddyn lwyddiannus yn 1911 (2787 ffesantod, petris 303, 36 ysgyfarnogod) i 1918 (354 ffesantod, petris 46, 4 ysgyfarnogod).

Mae catalog llawysgrifau’r llyfrgell yn Llyfrgell Brogyntyn 1709 yn rhestru 2000 o lyfrau gyda wynebddalen wedi ei ddylunio yn cynnwys arfbais Margaret Owen, gwraig Owen Ormsby. Mae'n ymddangos mai’r catalog hwn yw’r catalog cynharaf sydd wedi goroesi o'r Llyfrgell. Mae pob tudalen yn rhestru hyd at bump ar hugain o deitlau, mae'r cyflwyniad yn rhoi gwybod fod “Llyfrgell yn hawdd i’w reoli, wrth i lyfrau newydd gael eu prynu, dylid eu gosod yn ôl eu wyddor briodol yn ôl enw'r awdur ac o dan y pwnc".

Catalog Llawysgrif o Ddramâu yn Brogyntyn ym 1815, y cyntaf a luniwyd gan William Ormsby Gore (dyddiedig Chwefror 24, 1815), sydd â "threfniant dwbl - mae gan y rhan gyntaf y Dramâu yn nhrefn yr wyddor ac mae’r ail ran yn rhestru’r awduron ynghyd â chynyrchiadau pob un.”

Mae Dyddlyfr W.R. Ormsby Gore, Ail Arglwydd Harlech o gatrawd y “13th Light Dragoons”, 10 Mai - 1 Medi 1854 yn gofnod dyddiol manwl o'i daith i'r Dardanelles ble mae’n disgrifio’r lleoedd yr ymwelodd â hwy ar y ffordd a bywyd yn y gwersyll ar ôl cyrraedd. Mae’n cloi ychydig wythnosau cyn ymglymiad trychinebus ei gatrawd yn y frwydr a ddaeth yn enwog fel y “Charge of the Light Brigade” ble mae Gore yn portreadu Arglwydd Raglan ac Arglwydd Aberteifi yn anffafriol.

Prynwyd tri darlun o Harlech, Beddgelert a Llanelltyd gan yr arlunydd Moses Griffith (1747-1819)

Dywedodd Lona Mason Pennaeth Graffeg a Sain a deunydd gweledol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 

“Er bod y lluniau mewn cyflwr gwael, rydym yn falch eu bod wedi dod i'r Llyfrgell lle  byddwn yn gallu dechrau gwaith adfer arnynt, ac yn eu hychwanegu at ein casgliad o dirluniau  Cymru .”

Dywedodd Nia Mai Daniel Pennaeth yr Isadran Archifau a Llawysgrifau:

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi prynu’r llawysgrifau hyn a fydd o ddiddordeb mawr i ymchwilwyr mewn sawl maes megis hanes cymdeithasol, hanes chwaraeon, rhyfel y Crimea, llenyddiaeth, drama ac achyddiaeth. Bydd cyfle i weld rhai o'r pryniadau newydd mewn arddangosfa o Dderbynion Newydd yn y Llyfrgell o fis Medi ymlaen. "

Bydd y llawysgrifau yn cael eu hychwanegu at ein casgliad cyfoethog o Stad Brogyntyn a Chofnodion teuluol sydd eisoes yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae cofnodion ystad Brogyntyn, cartref y teulu Ormsby-Gore, Harlech, 1296-1951, yn cynnwys papurau ystadau a gweithredoedd, papurau cyfreithiol, papurau ariannol, papurau teuluol a phapurau gweinyddol sir teulu Ormsby-Gore, eu hynafiaid, y teuluoedd Maurice ac Owen, Clenennau, y Wyniaid o’r Glyn ac eraill, megis Anwyl Parc, Clayton o Lea Hall, Godolphin o Abertanat, Lyster o Benrhos, Mostyn o’r Nant, a Vaughan o  Corsygedol. Y tri prif stad a gynrychiolir yn y casgliad yw Brogyntyn, Clenennau a Glyn.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Rhagor o wybodaeth am y casgliadau

Nodiadau i Olygyddion

Bu i arwerthiant o gynnwys Glyn Cywarch - Eiddo Arglwydd Harlech yn Bonhams ar 29 Mawrth ennill yr anrhydedd prin o statws 'maneg wen' – h.y bu i pob un o'r 531eitem  gael eu gwerthu. Ar ddiwedd y marathon o arwerthiant 10-awr, y cyfanswm gwerthiant oedd £2,599,038 -  dros ddwy a hanner gwaith yn fwy na’r amcangyfrif cyn gwerthu.

 Mae’r Uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • Portread pwysig newydd ei ddarganfod gan Marcus Gheeraerts, arlunydd llys i Elisabeth I, a gyrhaeddodd £ 269,000 yn erbyn amcangyfrif o £ 60,000-80,000. Mae'r portread, a baentiwyd ym 1597, yn portreadu Ellen Maurice, aeres Gymreig amlwg a hynafiad Harlech. Mae ei pherlau a gemwaith werth yr hyn sy'n cyfateb i filiwn o bunnoedd yn y farchnad heddiw.
  • Papurau Kennedy-Harlech - y llythyrau personol dwfn rhwng Jackie Kennedy a David Ormsby Gore, yr Arglwydd Harlech, a werthwyd yn yr ystafell i brynwr preifat am £100,000.
  • Portread artist Gwyddelig Daniel Quigley o The Godolphin Arabia, un o dri meirch y Dwyrain lle mae pob ceffyl rasio modern yn hanu o, a werthwyd am dros bum gwaith ei amcangyfrif, a  gwerthu am £100,000.
  • Car 1936 Rapier 10hp Tourer, sy’n  gar chwaraeon Prydeinig prin, un o ddim ond 300 a adeiladwyd a werthwyd am £ 31,500, ar ôl cael ei amcangyfrif yn £ 20,000-25,000.

Bu i’r gwerthiant gynnwys 531 o eitemau yn amrywio o ddodrefn pwysig, paentiadau Hen Feistr, llyfrgell hanesyddol, gemwaith, arian a gweithiau celf a hyd yn oed car a beic modur.
Cynhaliwyd yr arwerthiant er mwyn codi arian ar gyfer adfer Glyn Cywarch (a elwir yn Glyn) a etifeddodd Jasset, 7fed Arglwydd Harlech ar farwolaeth ei dad yn Chwefror 2016.

Meddai Harvey Cammell, Dirprwy Gadeirydd Bohnams UK:

"Mae arwerthiant ‘maneg gwyn’ ble mae 100% yn cael eu gwerthu yn ddigwyddiad prin iawn, ac rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad. Roedd gan werthiant Harlech popeth y gallai un ddymuno amdano mewn arwerthiant . Fe wnaeth Bonhams ddau ddarganfyddiad hynod bwysig sydd wedi creu diddordeb rhyngwladol:.. y llythron Kennedy-Harlech hanesyddol oedd yn darparu golwg newydd i mewn i fywyd un o ffigyrau mwyaf adnabyddus ail hanner yr 20fed ganrif, a phortread prin o Elisabeth gan Marcus Gheeraerts, arlunydd llys i Elisabeth I. Gyda dodrefn derw Elisabethaidd o'r safon uchaf, llyfrgell bwysig o lyfrau hynafiaethol , a hyd yn oed y darganfyddiad o gar modur Lagonda clasurol, mae llwyddiant yr arwerthiant yn dangos yr apêl byd-eang o gasgliad perchennog unigol. "

Erthyglau Cysylltiedig