Llyfrgell Genedlaethol Cymru @CAERDYDD
02.03.2017
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn falch o gyhoeddi arwyddo cytundeb cydweithredu sy'n amlinellu'r ffyrdd y bydd y ddau sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol.
Mae hanes hir o gydweithredu rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Caerdydd, gan gynnwys ar y prosiect arobryn WHELF LMS diweddar i gaffael System Rheoli Llyfrgelloedd newydd ar gyfer y sector. Mae'r cytundeb newydd yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol a bydd yn darparu buddion i'r cyhoedd yn gyffredinol yn ogystal ag i ddefnyddwyr presennol y ddwy lyfrgell.
Yn ogystal ag arddangosfeydd ar y cyd, darlithoedd a digwyddiadau eraill, bydd myfyrwyr a'r cyhoedd ehangach yn gallu cael mynediad at gasgliadau ac adnoddau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru o'i ganolfan newydd a leolir yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, sydd hyd yn hyn ond wedi bod ar gael ar y safle yn Aberystwyth, gan gynnwys ei a
rchif sgrin a sain.
Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
"Mae'r trefniant newydd a chyffrous hwn rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Caerdydd yn brawf pellach bod y Llyfrgell yn parhau i fod ar flaen y gad o ran cyflwyno ffyrdd newydd o agor y casgliadau cenedlaethol i bawb, lle bynnag y maent yn byw neu'n gweithio."
Dywedodd Janet Peters, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd:
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu darllenwyr newydd i ofod pwrpasol y Llyfrgell Genedlaethol yn y Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac i ddarparu'r un ystod o adnoddau digidol i'n myfyrwyr ac ymchwilwyr fel y byddent yn cael yn Aberystwyth. Bydd gennym lyfrgell genedlaethol yn llythrennol ar garreg ein drws. "
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau
Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn asesiadau annibynnol y llywodraeth fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o Grŵp Russell, sef prifysgolion y Deyrnas Unedig sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd y Brifysgol yn y 5ed safle ar draws y Deyrnas Unedig am ragoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd mae dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel 2007 mewn Meddygaeth, sef Canghellor y Brifysgol, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol drwy Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i'r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk