LENS 2017
27.10.2017
Ar ddydd Sadwrn 4 Tachwedd, cynhelir LENS 2017 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Gŵyl ffotograffiaeth na ddylai neb sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ei methu.
O’i dyddiau cynnar fel digwyddiad i hyrwyddo casgliadau delweddau gweledol y Llyfrgell, mae’r Ŵyl wedi tyfu a datblygu dros y ddegawd a fu i fod yn fforwm drafod bwysig i ffotograffwyr proffesiynol a lleug, ac yn gyfle i fwynhau cyflwyniadau gan rai o gewri’r lens.
Mae siaradwyr eleni yn cynnwys:
Richard Jones
Er i Richard fod yn ymhel â thynnu lluniau ers blynyddoedd, dechreuodd ddysgu am ffotograffiaeth o ddifrif mewn cwrs ym Mhrifysgol Bangor tua 25 mlynedd yn ôl. Yn ôl Richard, roedd tiwtor y cwrs yn ffotograffydd tirlun creadigol iawn, oedd yn cymell ei fyfyrwyr i geisio canfod ongl a pherspectif gwahanol, gan gwestiynnu'r dulliau traddodiadol, ond gan hefyd, barchu gwerthoedd gorau'r grefft.
Wedi hynny, ac yn arbennig wedi i Richard ymddeol o'i waith amser llawn, mae’n parhau i geisio canfod onglau gwahanol, ond mae’n cydnabod ei bod yn hawdd iawn syrthio i'r fagl ystrydebol a thraddodiadol, ond mae e dal i ymdrechu, meddai!
Gerallt Llewelyn
Mae Gerallt yn 69 mlwydd oed, yn briod gyda dau o blant a chwech o wyrion. Mae wedi ymddeol bellach ond yn dal i wneud ambell i “joban” ddiddorol.
Treuliodd Gerallt y deugain mlynedd ddiwethaf yn tynnu lluniau yn y byd cyfryngol a chysylltiadau cyhoeddus a fu’n gymorth iddo dalu’r morgais, prynnu sawl car, ymweld â llawer o wledydd, ac i gynnal ei deulu.
Bod yn y lle iawn ar yr adeg iawn oedd y gyfrinach yn aml, a chyfarfod a sawl un fu’n driw ar hyd y blynyddoedd hynny. Yn ei sgwrs, bydd Gerallt yn rhannu peth o’r daith gyda’r gynulleidfa ac yn cynnig crynodeb o’r hyn a roddodd gyfle iddo fod tu ôl i’r camera am 40 o flynyddoedd.
Bernard Mitchell
Ganed Bernard yn Abertawe ym 1947 a bu'n astudio ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Berkshire, ac yno yn 1966, fe dynnodd luniau artistiaid ac awduron Abertawe a oedd wedi eu dylanwadu gan waith Dylan Thomas. Wedi hynny bu'n gweithio fel ffotograffydd papur newydd. Dychwelodd i Gymru ym 1998 i ail-ddechrau tynnu lluniau artistiaid ac awduron Cymru. Pan symudodd yn ôl i Abertawe, enillodd radd MA mewn ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe.
Sebastian Bruno
Yn seiliedig ar ei brofiadau unigol a chyfunol ei hun, ynghyd ag ymdeimlad o gyfrifoldeb i'r lle a’i phobl, bwriad lluniau a ffilm Sebastian yw i ddeall ac edrych ar gymhlethdod cysylltiadau dynol o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol. Dehongli'r byd, cymunedau a phobl, a allai fod wedi cael eu diystyru yn enw cynnydd sy'n ei yrru i greu naratif gonest, sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau dogfennu traddodiadol.
Yn 2015, dewiswyd Sebastian gan Magnum Photos yn un o 30 o ffotograffwyr o dan 30 mlwydd oed ac yn un o'r 10 o raddedigion gorau yn y DU. Mae ei waith blaenorol, Duelos y Quebrantos, sydd i'w gyhoeddi eleni, wedi cael ei arddangos a'i gyhoeddi'n eang ledled y DU a chyfandir Ewrop. Yn ogystal, mae ar restr fer ar gyfer nifer o wobrau, Prix Levallois (Ffrainc), Prix Roger Pic (Ffrainc), Gwobr Bar Tur Photobook (DU), Fotopres La Caixa (Sbaen), ymysg eraill.
Graddiodd Sebastian o'r cwrs Ffotograffiaeth Dogfennol uchel ei glod ym Mhrifysgol De Cymru (Casnewydd gynt).
Christopher Webster van Tonder
Cafodd Chris ei eni a'i fagu yng ngogledd orllewin Lloegr. Ym 1982 ymfudodd ei deulu i Dde Affrica. Ym 1986 ymunodd â chwrs lefel gradd fel myfyriwr ffotograffiaeth, ac ym 1989 graddiodd gydag anrhydedd. Yn 1990 cafodd swydd fel cynorthwy-ydd i ffotograffydd a symudodd i fflat yn Johannesburg gyda'i wraig. Erbyn 1992 roedd wedi cwblhau ei astudiaethau ôl-raddedig. Yn 1996 cafodd ei benodi'n Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Enillodd Chris ei PhD yn 2006 a daeth yn Uwch Ddarlithydd yn 2016.
Mae Chris yn parhau i fyw a gweithio yng Nghymru.
Will Troughton
Bydd ein Llyfrgellydd Delweddau Digidol yn cyflwyno newyddion o gasgliadau’r Llyfrgell.
Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol:
‘Mae penwythnos Lens wastad yn ddigwyddiad difyr a phleserus i bawb sy’n ymddiddori mewn ffotograffiaeth. Rydym yn llwyddo i ddenu ffotograffwyr proffesiynol ac amatur a rheini sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol. Mae’n siaradwyr blaenorol wedi cynnwys ffotograffwyr byd-enwog fel Phillip Jones-Griffiths a David Hurn.’
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Tocynnau
01970 532548
#Lens2017