Symud i'r prif gynnwys

Gwedd newydd i hen fapiau degwm

07.07.2017

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch o gyflwyno Lleoedd Cymru, sef platfform arlein newydd a fydd yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio ei chasgliadau’n  ddaearyddol.  Y casgliad cyntaf i fod ar gael fydd Mapiau Degwm Cymru.

Mae Mapiau Degwm Cymru a grëwyd rhwng 1830 a 1850  yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i haneswyr teulu a lleol, ac i unrhyw un sydd â diddordeb mewn mapiau yn hanes Cymru ac mae'n dangos sut mae tirwedd Cymru wedi newid yn ystod y 200 mlynedd diwethaf.

Am y tro cyntaf, byddwch yn gallu chwilio a phori tua 1,200 o fapiau degwm a thros 30,000 o dudalennau o ddogfennau mynegai sydd wedi cael eu digido, trawsgrifio a geo-gyfeirio  drwy brosiect Cynefin a ariannwyd gan CDL.

Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd,  Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni yma gan y Llyfrgell a’i phartneriaid yn rhyfeddol a bydd yr adnodd pwysig a chyfoethog  hwn yn rhoi budd i gynulleidfa eang o ddefnyddwyr.  Mae blaengaredd a datblygiad  yn bwysig i ni a bydd y platfform newydd hwn yn ein helpu i geisio sicrhau fod y Llyfrgell ar y blaen wrth ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gynnig mynediad am ddim i'n casgliadau ar gyfer pleser, addysg ac ymchwil."

Ar wefan Lleoedd Cymru gallwch chwilio am bobl, plwyfi, caeau ac enwau cartrefi  a gweld eich canlyniadau ar loeren fodern neu fap OS 1880. Gallwch hefyd bori drwy'r mapiau degwm a'r dogfennau mynegai drwy ddewis lleoedd o Gazeteer fydd wedyn yn arddangos y canlyniadau ar ryngwyneb map.

Un o uchafbwyntiau Lleoedd Cymru yw'r gallu i weld Cymru gyfan fel haenen wedi ei gwau. Mae hyn yn golygu y gallwch chwi bori drwy’r  mapiau a chroesi ffiniau  plwyf . Gallwch hefyd ddewis i weld ffiniau pob map a'u henwau.

Mae'r Llyfrgell yn gobeithio datblygu'r wefan yn y dyfodol, gan ychwanegu casgliadau pellach fel y gellir eu gweld ar wahanol haenau o fap, a fydd yn caniatáu i'n defnyddwyr i gymharu a chyferbynnu casgliadau gwahanol, ac agor meysydd newydd o waith ymchwil.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau ar gyfer golygyddion

  • Roedd y Prosiect Cynefin yn brosiect torfoli a ariannwyd gan CDL, i atgyweirio a digido mapiau degwm Cymru. Roedd hyn yn cynnwys mapiau o LlGC a sefydliadau allanol eraill.
  • Cynhyrchwyd mapiau degwm rhwng 1838 a 1850 yn dilyn Deddf Cymudo'r Degwm 1836, fel rhan o'r broses o sicrhau fod pob degwm yn cael eu talu gydag arian yn hytrach na chynnyrch. Mae'r mapiau hyn yn cwmpasu 95% o Gymru a nhw yw'r mapiau mwyaf manwl o'u hamser.
  • Rheolwyd Prosiect Cynefin gan Archifau Cymru sydd yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Casgliad y Werin Cymru. Cafodd mwyafrif y prosiect ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri gyda chefnogaeth gan adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cymru.