Golwg newydd i adnodd ymchwil fwyaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru
15.05.2017
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch i gyhoeddi lansio gwefan newydd Cylchgronau Cymru, ei hadnodd ymchwil mwyaf hyd yn hyn, sy'n rhoi mynediad digidol yn rhad ac am ddim i dros 1.2 miliwn o dudalennau allan o dros 450 o gylchgronau Cymreig. Mae Cylchgronau Cymru yn ychwanegiad gwerthfawr at y portffolio o adnoddau digidol sydd wedi ei sefydlu gan y Llyfrgell ac sy’n parhau i dyfu.
Gan ddarparu mynediad o bell am ddim i gylchgronau amrywiol, Cymraeg a Saesneg eu hiaith, a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2007, mae’r wefan yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio cynnwys y cyfnodolion yn ogystal â phori drwy deitlau a rhifynnau. Mae'r wefan hefyd yn galluogi defnyddwyr i bori fesul blwyddyn a degawd ynghyd â darparu cyswllt at gofnod catalog pob cyfnodolyn.
Mae’r teitlau yn amrywio o fod yn gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd ac yn ymwneud ag amrywiaeth o bynciau. O archaeoleg i wyddoniaeth, i ddychan gwleidyddol a materion diwinyddol, maent yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth yn ymwneud â Chymru ac sy'n cofnodi hanes deallusol Cymru.
Dywedodd Dr Dafydd Tudur, Rheolwr Adran Mynediad Digidol:
“Mae Cylchgronau Cymru yn cynnwys ein hanes deallusol fel cenedl. Mae'n ffenestr unigryw i'r ffordd rydyn ni wedi deall a dehongli ein hunain a'r byd o'n cwmpas dros gyfnod o dros bron i dair canrif.”
P'un ai am ddod o hyd i hen ryseitiau eich mam-gu ydych chi neu gasglu gwybodaeth ar gyfer eich gwaith academaidd, mae Cylchgronau Cymru yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Cymru, fel y mae rhai o'n defnyddwyr wedi darganfod:
Yn ôl un defnyddiwr mae’r wefan yn “Edrych yn wych! Bydd yn adnodd arbennig iawn i ymchwilwyr ac eraill” ac yn ôl defnyddiwr arall, bydd hon yn “Gwefan wych ar gyfer ysgolion”
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau
Mae'r wefan yn cyfuno deunydd wedi’i ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru’r Ugeinfed Ganrif a ariannwyd gan JISC, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd.
Mae Cylchgronau Cymru yn chwaer-wefan Papurau Newydd Cymru, a lansiwyd yn 2013 ac sy’n derbyn bron i hanner miliwn o ymweliadau y flwyddyn.
Mae'r wefan yn cael ei ddatblygu’n barhaus ac mae’r Llyfrgell yn croesawu pob adborth, sy’n gallu cael ei gyflwyno drwy ddilyn y ddolen adborth ar y wefan.
Gwefan Cylchgronau Cymru
Ymhlith y teitlau ar y wefan mae:
- Tlysau yr Hen Oesoedd (1735): Hwn oedd y cylchgrawn Cymraeg cyntaf, er iddo ond parhau am un rhifyn. Golygwyd y cylchgrawn gan y bardd ac ysgolhaig, Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fôn, 1701-1765).
- Archaeologia Cambrensis (1846-1999): Cylchgrawn a gyhoeddwyd yn flynyddol gan Gymdeithas Hynafiaethau Cymru, Roedd yn gylchgrawn ysgolheigaidd archeolegol a hanesyddol a gynhwysai adroddiadau ar gloddiadau, adolygiadau llyfrau, traethodau hanesyddol ynghyd â nodiadau'r Gymdeithas. Roedd yn ffynhonnell werthfawr ar lawysgrifau, achyddiaeth, herodraeth, enwau lleoedd, llên gwerin a llenyddiaeth Cymru.
- Y Gymraes: Cylchgrawn i Ferched Cymru (1850-51): Cylchgrawn misol, Cymraeg ei iaith, i fenywod gafodd ei sefydlu gyda chefnogaeth Augusta Hall, Lady Llanover (1802-1896). Golygwyd y cylchgrawn gan y gweinidog a newyddiadurwr, Evan Jones (Ieuan Gwynedd, 1820-1852). Teitlau cysylltiol: Y Tywysydd a'r Gymraes (1852).
- Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion (Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion): mae’r cylchgrawn wedi ei gyhoeddi’n flynyddol ers 1893 (Vol. I) ac mae’n cynnwys traethodau ac adolygiadau hanesyddol a llenyddol.
- Y Cenhadwr Americanaidd (1840-1901): Cylchgrawn misol, Cymraeg ei iaith, sy’n rhoi darlun o fywyd, hunaniaeth a byd-olwg ymsefydlwyr o Gymru a’u disgynyddion yn yr Unol Daleithiau.
- Y Gwyddonydd (1963-1996): Cylchgrawn Cymraeg oedd Y Gwyddonydd yn cynnwys erthyglau, adolygiadau ac eitemau newyddion ar bynciau gwyddonol.