Goleuo’r Byd… un adeilad ar y tro
16.10.2017
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn goleuo’n felyn yn ystod mis Hydref i helpu i wneud anableddau cudd yn fwy amlwg.
Mae'r elusen Shine yn galw ar ei gefnogwyr a'r cyhoedd i Go Yellow yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Spina Bifida a Hydrocephalus 16 – 20 Hydref ac yn enwedig ar ddiwrnod cenedlaethol Spina Bifida a Hydrocephalus, 25 Hydref er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflyrau hyn.
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn un o wyth lleoliad fydd yn goleuo ar gyfer yr achos yn ystod yr wythnos.
Mae Shine yn rhedeg gwasanaethau ac yn ymgyrchu dros tua 11,000 o aelodau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd cefnogwyr Shine yn cael hwyl wrth godi arian i gyd fynd â thema Go Yellow ac yn rhannu hunluniau drwy ddefnyddio #ShineBright17
Tu ôl i'r hwyl mae yna neges ddifrifol. Mae'r elusen yn galw am well mynediad i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl sydd â Spina bifida a Hydrocephalus, dau gyflwr cymhleth.
Ymysg y sefydliadau eraill o gwmpas y DU fydd yn goleuo yn ystod yr wythnos mae: Andover Guildhall, Neuadd y Ddinas Caerdydd, Pont Clifton, Neuadd St George Lerpwl, Arena Leeds, Neuadd y Dref Manceinion, Neuadd y Ddinas Norwich, Tŵr Spinnaker Portsmouth a Rhodfa Hanesyddol Peterborough.
Mae Spina Bifida a Hydrocephalus yn gyflyrau sydd yn bygwth bywydau, sy'n gallu effeithio ar ddatblygiad plentyn, sgiliau echddygol, a gallu i ymdopi â bywyd bob dydd. Gall hyn gael effaith enfawr ar y teulu cyfan. Mae gan lawer o blant Spina Bifida a Hydrocephalus - sydd hefyd yn gallu digwydd yn nes ymlaen mewn bywyd – ac yn golygu nifer o lawdriniaethau a chymhlethdodau. Gall cymryd asid ffolig, dri mis cyn beichiogi tan y pedwerydd mis o feichiogrwydd leihau'r risg o faban yn datblygu namau ar y tiwb nerfol.
Mae Shine yn darparu cefnogaeth arbenigol o'r cyfnod cyn geni a thrwy gydol oes i unrhyw un sy'n byw gyda Spina Bifida a / neu Hydrocephalus, yn ogystal â rhieni, teuluoedd, gofalwyr a staff gofal proffesiynol.
Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan ewch i Shine
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Shine
#ShineBright17