Dewch i ddeffro chwedlau cudd y Llyfrgell Genedlaethol
27.02.2017
Mae casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llawn chwedlau cudd. Ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth, bydd twyllwyr ac arwyr, seintiau a phechaduriaid yn deffro unwaith yn rhagor a’u straeon yn llenwi’r lle!
Yn hyn, Blwyddyn Chwedlau Cymru, mae Partneriaethau Cyrchfan Ceredigion a Biosffer Dyfi, yn cydweithio i draddodi straeon y rhanbarth i gynulleidfa newydd ac ehangach. Fel rhan o'r gweithgaredd hwn, datblygwyd app newydd gyda chwmni digidol, Locly (www.locly.com) ym Mangor, i ddod â thirwedd chwedlonol Ceredigion yn fyw, gan gyflwyno storïau, gemau sy'n seiliedig ar chwedlau, gweithgareddau a gwybodaeth i ymwelwyr wrth iddynt grwydro’r ardal gyda'u ffonau symudol. Mae’r app newydd, yn gweithio trwy dechnoleg GPS a iBeacon i ddod o hyd i ddefnyddiwr a gwthio’r cynnwys priodol at eu dyfeisiau. Y bwriad yw annog ymwelwyr i ymgysylltu’n ddyfnach â diwylliant yr ardal ac ymweld â mannau sy'n gysylltiedig â'r chwedlau a gynhwysir ar y app.
Wrth siarad am y prosiect, dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd o Bartneriaeth Cyrchfan Ceredigion:
"Mae Ceredigion yn gartref i chwedlau megis Taliesin, sy’n adnabyddus ar draws y byd ac eraill tebyg i Gantre'r Gwaelod - Atlantis Cymru - sydd â chysylltiadau i fytholeg ryngwladol. Yn ogystal, mae gennym gymeriadau gwych fel Twm Sion Cati a chyfoeth o dirweddau llawn chwedl i rannu gyda'n hymwelwyr. Bydd hyn yn fodd o ychwanegu hud a dirgelwch i'w arhosiad gyda ni. Rydym hefyd yn lwcus iawn bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ei lleoli yma, sydd nid yn unig yn 'gartref' i chwedlau Ceredigion, ond i rai Cymru gyfan. Yn ystod ein blwyddyn chwedlau, ar y cyd â phartneriaid twristiaeth, a threftadaeth ar draws y rhanbarth, byddwn yn hyrwyddo a bywhau diwylliant Ceredigion fel erioed o'r blaen."
Ar ddydd Sadwrn 4 Mawrth gall ymwelwyr i'r Llyfrgell gael hwyl wrth ddarganfod y chwedlau sy’n cuddio mewn cypyrddau, arddangosfeydd a choridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, trwy gydol y dydd, yn rhad ac am ddim.
Bydd app Chwedlau’r Gorllewin ar gael i'w lawr lwytho am ddim o siopau app o’r 4 Mawrth.
Galwad I’r Wasg
I lansio app Chwedlau’r Gorllewin, mae'r tîm wedi bod yn cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gysylltu mythau a chwedlau lleol gyda’u casgliad hynod amrywiol a gwerthfawr o ddogfennau ac arteffactau.
Ar ddydd Gwener, y 3ydd o Fawrth, pan fydd y cyhoedd wedi gadael a drysau’r Llyfrgell wedi eu cloi, gwahoddir aelodau’r cyfryngau a gwesteion arbennig i ymuno â ni am gwest chwedlonol trwy goridorau tawel y Llyfrgell i ddarganfod trysorfa o chwedlau lleol a llawn brofi gallu'r app newydd. Mae’r achlysur arbennig yma, sy’n ddathliad o weithgaredd Ceredigion fel rhan o Flwyddyn Chwedlau Cymru 2017, yn cychwyn am 5.30pm ar 3 Mawrth yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffordd Penglais, Aberystwyth, SY23 3BU. Bydd ystod o bobl ddiddorol ar gael am gyfweliadau, a gellid trefnu caniatâd ffilmio gyda’r Llyfrgell o flaen llaw.
Bydd pair Ceridwen yn parhau i ferwi nes 8:30pm pan gewch eich rhyddhau, yn gyforiog â chaws lleol ac ychydig o fedd, tipyn yn ddoethach ac yn llawn ysbrydoliaeth!
Bydd app 'Chwedlau’r Gorllewin', â chynnwys unigryw ar gyfer digwyddiadau lansio ddydd Gwener a dydd Sadwrn, ar gael i'w lawr lwytho o Google Play a App Store Apple cyn y digwyddiad. Defnyddiwch 'Legends of the West' i ddod o hyd iddo a’i lawr lwytho ar unrhyw ddyfais iOS neu Android (ffôn neu dabled).
Am fwy o wybodaeth ac i gadarnhau eich presenoldeb, cysylltwch â:
Angharad Wynne, Angharad Wynne Marchnata a Chyfathrebu
07786256722 / Angharad@angharadwynne.com
Ar gyfer caniatad ffilmio yn y Llyfrgell, cysylltwch â post@llgc.org.uk neu 01970 632 471.