Symud i'r prif gynnwys

Dathlu'r gorffennol a dyfodol Ystrad Fflur

10.07.2017

Bydd Ystrad Fflur yn agor ei drysau yn rhad ac am ddim yn ystod penwythnos 15/16 Gorffennaf 2017 fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy'n dathlu hanes yr hen Abaty [1] a lansio prosiect mawr i adfer y safle.

Meddai David Austin, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur:

"Mae Ystrad Fflur yn lle arbennig iawn yng ngolwg y Cymry. Roedd yn ganolfan  hanesyddol a diwylliannol pwerus  ac rydym yn gweithio'n galed i i ddod â’r ysblander gynt yn ôl i’r hen le.Mae dros deunaw mlynedd o ymchwil wedi dangos bod gan Ystrad Fflur stori llawer dyfnach a mwy anhygoel ’i’w hadrodd nag yr ydym erioed wedi’i ddychmygu o’r blaen."

Yn arwain at y penwythnos dathlu bydd digwyddiadau eraill sy'n pwysleisio arwyddocad hanesyddol Ystrad Fflur fel canolfan ddysg  ac arloesi yn cael eu cynnal:

  • Ar ddydd Llun 10 Gorffennaf, bydd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn mynd o amgylch safle Ystrad Fflur gan gwrdd ag ymddiriedolwyr, partneriaid ac aelodau o'r gymuned leol;
  • Ar dydd Mawrth Gorffennaf 11eg bydd cynrychiolwyr o'r Gynhadledd Harmoni mewn Bwyd a Ffermio yn ymweld i ddysgu am hanes defnydd y tir yn Ystrad Fflur a sut y gallai hynny helpu gyda heriau a chyfleoedd heddiw mewn ffermio;
  • Ar ddydd Sadwrn 15 a Dydd Sul 16 Gorffennaf bydd llu o weithgareddau ar gyfer pobl o bob oed yn cael eu cynnal er mwyn adrodd hanes y lle rhyfeddol hwn;
  • Ar yr un pryd, bydd y Cyngor Archaeoleg Brydeinig yn lansio eu Gŵyl Archaeoleg Gymreig gydag arddangosiadau o dechnegau a darganfyddiadau archeolegol. Mae hyn yn cynnwys gwaith cloddio y gall plant gymryd rhan ynddynt.
  • Ar ddydd Sul 16 Gorffennaf bydd Cwpan Nanteos [2],sef cwpan bren hynafol sydd â hanes cyfoethog a diddorol yn perthyn iddo, ac sydd bellach yn cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cael ei arddangos o flaen Uchel Allor hen Eglwys yr Abaty a'i Ffynnon Sanctaidd;
  • Yn ogystal, ar y dydd Sul 16 bydd tri gwasanaeth byr yn ystod y dydd yn cael eu cynnal er mwyn dathlu 1,000 o flynyddoedd o addoli yn Ystrad Fflur, a fydd yn pwysleisio  hanes hir Cristnogaeth ar y safle.

Mae ‘Dathlu Ystrad Fflur’ wedi ei drefnu fel partneriaeth rhwng Cadw, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Archaeoleg Prydain a'r Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur. Am fwy o fanylion ewch i www.strataflorida.org.uk

Meddai David Austin, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Ystrad Fflur:

“Bydd gan ddathliadau’r penwythnos rhywbeth i bawb. Yn ogystal â rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y cloddio archeolegol, bydd yna arddangosfeydd, stondinau, teithiau tywys a pherfformiad gan Theatr Byd Bach gyda’u cawr o bypet, Yr Arglwydd Rhys, sylfaenydd yr Abaty. “

“Bydd pawb sy’n ymweld â’r gweithgareddau hefyd yn gweld ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys Mynachlog Fawr, sef hen dŷ ffarm, sy’n cael ei adnewyddu drwy ddefnyddio technegau traddodiadol. Hwn fydd cartref Canolfan Ystrad Fflur er mwyn cyfoethogi profiad yr ymwelydd am flynyddoedd eto.”

Nodiadau i’r Golygydd

  1. Cafodd Abaty Ystrad Fflur ei sefydlu gyntaf yn 1164 pan fu i Farchog Normanaidd, Roberts Fitzstephan rhoi tir yng nghanol Ceredigion i fynaich Abaty Hendy-Gwyn Ar Daf  yn sir Gaerfyrddin. Am fwy o wybodaeth am y prosiect ewch i www.strataflorida.org.uk
  2. Gweler gwefan yr ymddiriedolaeth am fwy o wybodaeth
  3. Mae rhai pobl yn credu mai’r Greal Sanctaidd yw  Cwpan Nanteos.

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk