Datgloi ein Treftadaeth Sain
12.04.2017
Hwb ariannol i alluogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru i weithio mewn partneriaeth â’r Llyfrgell Brydeinig a rhwydwaith genedlaethol newydd ar brosiect cadwraeth sain arloesol.
Heddiw, mae’r Llyfrgell Brydeinig yn lansio Datgloi ein Treftadaeth Sain, sef prosiect mawr gwerth £18.8 miliwn sydd wedi derbyn grant o £9.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri . Bydd yr arian yn galluogi’r Llyfrgell Brydeinig i ffurfio rhwydwaith genedlaethol gyntaf erioed o ddeg o ganolfannau cadwraeth sain, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd y rhwydwaith hwn yn cael ei arwain gan y Llyfrgell Brydeinig i achub bron i hanner miliwn o recordiadau prin ac unigryw sy'n cael eu bygwth gan ddirywiad ffisegol neu sydd wedi’u cadw mewn fformatau na ellir eu chwarae mwyach.
Mae'r rhain yn recordiadau sy’n dweud stori gyfoethog am hanes amrywiol y DU drwy’r traddodiadol, pop a cherddoriaeth y byd, darlleniadau o ddramau a llenyddiaeth, hanes llafar, radio rhanbarthol, a synau o fywyd gwyllt o bob cwr o'r wlad. Bydd y deunydd Cymraeg yn cynnwys cyfweliadau gyda ymfudwyr Cymreig i Ogledd America a Phatagonia, recordiadau tafodiaith, cyfweliadau gyda gwahanol weithwyr yn y diwydiant, eu teuluoedd a'r gymuned, archifau cerddoriaeth draddodiadol Gymreig ac areithiau gwleidyddol gan wleidyddion cenedlaethol.
Bydd Cronfa’r Loteri yn galluogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru i weithio gyda'r Llyfrgell Brydeinig i gadw synau cenedlaethol unigryw a phrin Cymru a datblygu ystod o weithgareddau ymgysylltiol i gysylltu'r cyhoedd â'u treftadaeth.
Elfen hanfodol o Datgloi Ein Treftadaeth Sain yw fod gwefan ryngweithiol sy’n cael ei gynnal gan y Llyfrgell Brydeinig, yn caniatáu i wrandawyr i archwilio amrywiaeth eang o recordiadau. Mae'r wefan hon wedi ei rhaglennu i fynd yn fyw yn 2019.
Dywedodd Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae hyn yn newyddion gwych i gasgliadau sain yng Nghymru. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn falch iawn o fod yn rhan o'r prosiect pwysig hwn ac yn ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am eu cefnogaeth wrth wneud y prosiect hwn yn bosibl. Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu'n sylweddol tuag at ddatblygu sgiliau, darparu hyfforddiant a chynnal ein treftadaeth sain. "
Meddai Roly Keating, Prif Weithredwr y Llyfrgell Brydeinig:
"Rydym yn hynod o ddiolchgar i Gronfa Dreftadaeth y Loteri a'n holl gefnogwyr am gydnabod yr angen brys i achub y recordiadau prin ac unigryw o bob cwr o'r Deyrnas Unedig. Mae'r Llyfrgell Brydeinig yn gartref i archif sain y genedl, ac rydym wrth ein bodd y bydd yr arian hwn yn ein helpu i ofalu am ein treftadaeth sain er mwyn i bobl gael eu harchwilio a'u mwynhau. "
Meddai Ilse Assmann, Llywydd Cymdeithas Ryngwladol Archifau Sain a Chlyweled (IASA):
"Mae IASA yn cydnabod fod rhan sylweddol o dreftadaeth ddiwylliannol y byd yn cael cadw ar ffurf recordiadau sain. Mae'r rhain yn cael eu bygwth gan bydredd a esgeulustod ac oni bai fod rhywbeth yn cael ei wneud ar frys, bydd llawer o recordiadau yn cael eu colli a ddim ar gael ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn enghraifft wych, ac wedi cael ei sefydlu i sicrhau fod treftadaeth sain yn cael ei wneud yn hygyrch mewn archifdai yn y DU."
Nodiadau i'r Golygydd
Mae Datgloi ein Treftadaeth Sain wedi cael ei wneud yn bosib gyda diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Foyle, Ymddiriedolaeth Headley, Ymddiriedolaeth y Llyfrgell Brydeinig ac Ymddiriedolaeth America ar gyfer y Llyfrgell Brydeinig a rhoddwyr eraill.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Elin Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Save Our Sounds
Am Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yw llyfrgell fwyaf Cymru ac ynddi cedwir cof cenedl. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol mae ganddi’r hawl i dderbyn copi am ddim o bopeth sy’n cael ei gyhoeddi ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae 4,000 o gyhoeddiadau newydd yn cael eu casglu bob wythnos i ychwanegu at gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o:
- 6 miliwn o lyfrau a phapurau newydd
- 950,000 o ffotograffau
- 60,000 o weithiau celf
- 1.5 miliwn map
- 7 miliwn troedfedd o ffilm
- 40,000 o lawysgrifau
- 250,000 awr o fideo
- 1,900 metr ciwbig o archifau
Mae gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyd yn rhad ac am ddim i ddinasyddion Cymru ac nid ydyw’n gwahaniaethu ar sail gallu neu anallu i dalu. Mae croeso i blant a phobl ifanc o bob cefndir i ddefnyddio’r Llyfrgell a defnyddio’i gwasanaethau, boed hynny drwy ddod i Aberystwyth neu ar-lein. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cynnal gweithdai mewn ardaloedd ar draws Cymru sy’n ateb gofynion y cwricwlwm o ran cynnwys a sgiliau, ac sy'n cyflwyno'i chasgliadau i bobl ifanc, rhieni ac athrawon. Trefnir y gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr addysg, a sefydliadau ac ysgolion unigol gyda'r nod o sicrhau bod cymaint â phosib o blant a phobl ifanc Cymru yn medru elwa o weithio gyda chasgliadau cyfoethog y Llyfrgell.
Am y Llyfrgell Brydeinig
Y Llyfrgell Brydeinig yw llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig ac mae’n un o lyfrgelloedd ymchwil mwyaf y byd. Mae'n darparu gwasanaethau gwybodaeth o'r radd flaenaf i'r cymunedau academaidd, busnes, ymchwil a gwyddonol ac yn cynnig mynediad heb ei ail i gasgliadau ymchwil mwyaf cynhwysfawr y byd.