Symud i'r prif gynnwys

Cymry Creadigol

30.03.2017

Dydd Gwener 31ain o Fawrth, mewn seremoni arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth agorir Ystafell Eluned Gymraes Davies yn swyddogol.

Yn ystod 2012 derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gymynrodd gan ystâd Eluned Gymraes Davies (1910 – 2004) i gyflwyno cyfres o brosiectau crefft er côf amdani.

Yn ystod y bum mlynedd diwethaf mae trigolion ar hyd a lled Cymru wedi cymryd rhan mewn cyfres o weithdai yn seiliedig ar grefft benodol gyda’r thema wedi ei ysbrydoli gan gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Ymysg y campweithiau a grëwyd mae:

Brodwaith ar thema Diwydiant Copr Abertawe

Gwaith Metel ar thema Pen Llŷn

Gwaith Gwehyddu ar thema Llwybrau’r  Pererinion

Gwaith Cerfio Pren ar thema Eiconau Merthyr Tudful

Gwaith Gwydr Lliw ar thema Sir Benfro

Paentio Sidan ar thema Ynys Môn.

Bydd y campweithiau yma yn cael eu harddangos mewn gofod parhaol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Ystafell Eluned Gymraes Davies.

Amcan pob prosiect oedd rhoi’r cyfle i bobl ddysgu crefftau llaw amrywiol, gan ganolbwyntio ar grefftau yr oedd Eluned Gymraes ei hun yn eu hyrwyddo. Cytunwyd y byddai pob prosiect yn cynnwys cyfres o weithdai dan arweiniad tiwtoriaid profiadol i greu darn cydweithiol gorffenedig, ac y byddai pob elfen o’r sesiynau yn rhad ac am ddim.

Chwaraeodd Eluned Gymraes Davies, a oedd yn enedigol o Bontardawe, ran allweddol bwysig wrth i Gyngor Sir Morgannwg sefydlu Canolfan Gymunedol Tŷ Bryn yn Abertawe dros 60 mlynedd yn ôl, ac fe’i hapwyntiwyd hi y Pennaeth cyntaf yno. Dros y degawdau mae’r ganolfan wedi parhau i ddarparu addysg ar gyfer unigolion dros 16 mlwydd oed, ac mae’n gweithio i wella ac ehangu eu sgiliau gwaith a’u rhagolygon gyrfaol trwy gynnig rhychwant o gyrsiau ar bob math o grefftau amrywiol.

Rhoddwyd y cyfle i bob myfyriwr ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn dysgu am ei chasgliadau a’i gwaith, a chael golwg agosach ar rai deunyddiau penodol a oedd yn berthasol i’w prosiect.

Meddai Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Anrhydedd mawr ydyw  agor Ystafell Eluned Gymraes Davies yn swyddogol. Mae’n fraint i’r Llyfrgell gydnabod cyfraniad Eluned Gymraes Davies i fywyd cyhoeddus yng Nghymru a’i haelioni i’r Llyfrgell. Bydd yn gyfle gwych i arddangos y campweithiau sydd yn benllanw ar flynyddoedd o waith caled sy’n adlewyrchu diddordebau a gwerthoedd Eluned Gymraes Davies.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

Agoriad Swyddogol:
Dydd Gwener 31 Mawrth 2017 am 1pm
Cyfle am lun gyda’r crefftwyr a’r hyfforddwyr ynghyd ag Ymddiriedolwyr Cynllun Eluned Gymraes Davies

Clipiau Fideo