Symud i'r prif gynnwys

Comin Wikimedia a Recordiadau SAIN

26.06.2017

Mewn partneriaeth gyda golygyddion yr Wicipedia Cymraeg, Wikimedia UK, Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae Sain (Recordiau) Cyf. (www.sainwales.com)  wedi agor peth o’u cynnwys cerddorol ar un o drwyddedi agored, er mwyn ei rannu gyda chynulleidfa ehangach. Bellach, mae dros 7,000 o glipiau sain a lluniau clawr 498 albwm ar gael am ddim ar wefan Comin Wicimedia.

Mae’r cam hwn yn gyffrous iawn gan ei fod yn gosod Sain (Recordiau) Cyf. ar frig y don agored lle gwelir gwybodaeth - a’r mynediad at yr wybodaeth honno - yn gwbl rydd ac agored!

Dyma’r unig gwmni drwy’r byd i wneud hyn, a rhagwelir y bydd golygyddion a golygyddion gwefannau drwy’r byd yn medru defnyddio’r ffeiliau hyn e.e. i greu a gwella erthyglau ar Wicipedia ar gannoedd o gerddorion o Gymru, yn unigolion, bandiau, grwpiau neu gorau. Gan fod yr holl feiliau hyn ar drwydded Attribution-ShareAlike 3.0 Unported (CC BY-SA 3.0), gallant gael eu defnyddio a’u rhannu cyn belled bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i Sain (Recordiau) Cyf., gyda dolen hefyd i’r drwydded ac y nodir os gwnaed unrhyw newid i’r gwaith. Os yw’r ffeiliau’n cael eu rhannu ymhellach, mae’n rhaid eu rhoi o dan yr un drwydded.

SYLWADAU:

Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain (Recordiau) Cyf.: “Mae’r bartneriaeth hon yn gyfle gwych i ni a’n hartistiaid ni ac yn caniatáu i eraill i gael gwybodaeth am gerddoriaeth Cymraeg a Chymreig. Gan Sain mae’r catalog mwyaf o recordiadau Cymreig ledled y byd ac mae’r prosiect yma’n gyfle da i rannu’r clipiau sain a’r lluniau cloriau o’r catalog hwn gyda gweddill y byd.”

Dywedodd Lona Mason, Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru: “Mae’r Llyfrgell wrth ei bodd gyda’r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth Cymru a Sain (Recordiau) Cyf. ac yn gweld y prosiect yn un hynod o bwysig. Mae’n newyddion da i’r byd cerdd yng Nghymru, ac i gasglwyr a chefnogwyr y sin hwnnw drwy’r byd! Mae’n rhoi llwyfan allweddol a fydd yn galluogi i bobl ifanc ac eraill rannu a mwynhau casgliadau Sain a recordiwyd dros y blynyddoedd.”

Lucy Crompton-Reid, Prif Weithredwr Wikimedia UK: “Mae ffeiliau sain yn rhoi dimensiwn cyffrous a phwysig i Wicipedia ac mae rhyddhau’r casgliadau hyn yn cyfoethogi’r gwyddoniadur gyda cherddoriaeth Gymreig - clasurol, gwerin a chyfoes, a mynediad agored hwylus iddyn nhw. Dw i’n gobeithio’n fawr y bydd eraill yn dilyn yr esiampl anhygoel yma ac y gwelir rhyddhau rhagor o gynnwys dan drwydded agored. Llongyfarchiadau i bawb a fu wrthi!”

Rheolwr Wicimedia Cymru yw Robin Owain, a dywedodd: “Does 'na run cwmni arall drwy’r byd wedi rhyddhau eu casgliadau’n agored. Bydd pob iaith yn elwa - mae 'na 295 Wicipedia drwy’r byd a fydd yn elwa o fedru ychwanegu’r ffeiliau hyn i’w herthyglau - a gall unrhyw gwmni dan haul eu rhoi ar eu gwefannau. Buom yn ‘Wlad y Gân’ ers tro byd, ond mae hyn yn rhoi’r genedl ar flaen y gad o ran cynnwys agored, digidol yn ogystal â cherddoriaeth!

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632571 neu post@llgc.org.uk

Ffeiliau Perthnasol