Symud i'r prif gynnwys

Chwilio am weithgareddau hanner tymor?

Beth am dreulio amser gyda’r teulu yn bod yn greadigol a hynny mewn lleoliad godidog yn llawn ysbrydoliaeth?

Bydd gweithdy print leino yn cael ei gynnal yn ystod wythnos hanner tymor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dydd Iau, 2 Tachwedd o 9:30am hyd at 12:00pm.

Dyma gyfle i chi arborfi ac i ddangos eich sgiliau creadigol yng nghwmni yr artist o Ddyffryn Dyfi, Elin Vaughan Crowley.  Croeso i chi ddod gyda’ch plant, neu os am ennyd fach i chi eich hun, mae croeso i unigolion hefyd.  Tocynnau ar gael trwy ffonio 01970 632 548 neu digwyddiadau.llyfrgell.cymru am £12 yr un.

Trwy gydol wythnos hanner tymor bydd helfa drysor i blant ar gael yn rhad ac am ddim wrth y dderbynfa a Siop LlGC, gyda gwobr i’r sawl sy’n llwyddo i gwblhau’r cliwiau.  Bydd cyfoeth o arddangosfeydd ar agor gan gynnwys Arthur a Chwedloniaeth Cymru, Arwyr!, Byd y Llyfr a Derbynion Diweddar, sy’n gyfle i weld rhai o’r trysorau diweddaraf i gyrraedd casgliad y Llyfrgell.

Bydd Caffi Pen Dinas ar agor gyda  arlwy o amrywiol fwydydd a diodydd poeth ac oer, a theisennau cartref blasus!  Mae Siop y Llyfrgell yn gwerthu ystod eang o eitemau unigryw, gwaith wedi ei wneud â llaw a chrefftau a rhoddion a ysbrydolir gan gasgliadau’r Llyfrgell.  Gwelir hefyd nwyddau hardd i’r cartref, gemwaith o ansawdd uchel a wneir â llaw yng Nghymru, teganau, llyfrau, a llawer mwy.  Mae mynediad hwylus i’r adeilad a maes parcio eang cyfagos (mae modd hawlio cost parcio yn ôl wrth wario yn y Siop neu Caffi Pen Dinas).

Wrth edrych ymlaen at ddiwedd wythnos hanner tymor, ac at ddant disgyblion hŷn o bosib, bydd diwrnod o ddarlithoedd i’r sawl sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth, ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd.  Cynhelir Lens 2017 yn y Drwm rhwng 10:00am – 5:00pm yng nghwmni Sebastian Bruno, Richard Jones, Christopher Webster van Tonder, Gerallt Llewelyn, Bernard Mitchell a William Troughton.  Mynediad trwy docyn am bris o £10.

Am ragor o wybodaeth am raglen digwyddiadau ac arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ewch i digwyddiadau.llyfrgell.cymru neu dilynwch y Llyfrgell ar Facebook a Twitter @llgcymru