Symud i'r prif gynnwys

Chwedlau’r Seintiau

20.02.2017

Arddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 18 Chwefror – 10 Mehefin 2017

Unwaith y flwyddyn ar ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, rydym ni’n cofio ein nawddsant a threftadaeth Gristnogol gynnar Cymru. Fodd bynnag dim ond un sant yw Dewi ymhlith y rhai y mae eu traddodiadau’n dal i’w gweld yn nhirwedd Cymru mewn enwau llefydd, cysegriadau eglwysig a ffynhonnau sanctaidd. O Sain Ffagan i Landudno, Tyddewi i Bennant Melangell, mae enwau’r saint yn rhan annatod o wead y wlad.

Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae prosiect ymchwil Cwlt y Seintiau yng Nghymru yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Choleg Kings Llundain, wedi canolbwyntio ar lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg yn ymwneud â mawrygu’r seintiau. Mae ysgolheigion yn y Ganolfan ac yn y sefydliadau cydweithredol wedi bod yn golygu ac yn cyfieithu Bucheddau’r seintiau canoloesol, barddoniaeth am y seintiau ac achau’r seintiau fel rhan o’r prosiect a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Wrth i’r prosiect dynnu tua’i derfyn, mae arddangosfa o’r llawysgrifau canoloesol a modern cynnar sy’n ffynhonnell y llenyddiaeth hon bellach i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae’r arddangosfa, fydd i’w gweld tan 10 Mehefin, yn dangos goroesiad y traddodiadau canoloesol am y dynion a’r menywod sanctaidd sy’n rhan mor bwysig o dreftadaeth ddiwylliannol y wlad.

Ceir llawysgrifau canoloesol pwysig yn yr arddangosfa, fel Llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Llandaf, a Llyfr Oriau Llanbeblig, ochr yn ochr â llawysgrifau reciwsant modern cynnar yn cynnwys Bucheddau saint canoloesol hwyr a barddoniaeth. Mae’r bucheddau hyn o’r seintiau’n cofnodi cyfoeth o draddodiad am seintiau lleol yng Nghymru, yn ogystal â seintiau adnabyddus ar draws y byd Cristnogol.

I gyd-fynd â’r prosiect cynhelir rhaglen o sgyrsiau, a chyflwynir y gyntaf gan Dr David Parsons, cyd-guradur yr arddangosfa, ar 1 Mawrth. Bydd Dr Parsons yn ein hatgoffa bod mawrygu seintiau’n rhan ganolog o gymdeithas Cymru cyn y Diwygiad, a bydd yn trafod testunau Cymraeg canoloesol am seintiau, ac yn edrych ar eu perthynas gref gyda llefydd a rhanbarthau penodol. Yn dilyn hyn cynhelir sgyrsiau oriel ar 29 Mawrth, a darlith gan y cyd-guradur Martin Crampin, ar 17 Mai, a fydd yn cyflwyno’r amrywiaeth gyfareddol o ddelweddau gweledol o saint Cymru sydd i’w gweld mewn eglwysi ar draws y wlad.

Cyhoeddir y llenyddiaeth ganoloesol ar wefan benodol a gaiff ei lansio mewn cynhadledd undydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 3 Mehefin. Bydd y golygiad electronig hwn yn cynnwys o ddeutu 100 o destunau canoloesol Cymraeg, gyda cherddi, bucheddau rhyddieithol ac achau ynghyd â delweddau digidol ansawdd uchel o lawer o’r llawysgrifau. Gan ddarparu testunau modern dibynadwy gyda nodiadau manwl a chyfieithiadau Saesneg, bydd hwn yn golygu bod traddodiad bucheddol Cymraeg ar gael i’w astudio yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y wefan hefyd yn cynnwys detholiad o wybodaeth am y seintiau a’u traddodiadau, a bydd hyn yn parhau i ddatblygu yn dilyn prosiect newydd sydd wedi’i gyllido’n ddiweddar gan yr AHRC. Bydd Vitae Sanctorum Cambriae: Bucheddau Lladin Seintiau Cymru yn parhau gydag ymchwil newydd ar fucheddau seintiau canoloesol drwy olygiadau a chyfieithiadau newydd o’r testunau Lladin, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ewch i - www.seintiaucymru.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk