Calonnau Cymru
20.03.2017
Dydd Mercher, 29 Mawrth bydd Caffi Pen Dinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal te parti am 3:00pm i godi arian i ‘Calonnau Cymru: Elusen y Galon Dros Gymru’.
“Bydd croeso cynnes i bawb am baned a chacen a chyfle i gymdeithasu a chyfrannu at yr elusen bwysig hon” meddai Elaine Turnpenney, Rheolwr Caffi Pen Dinas.
Un o gefnogwyr brwd yr elusen yw’r gŵr lleol, Glan Davies ac meddai ef:
"Rwy'n hynod o falch bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dewis cefnogi'r achos teilwng hwn. Bydd y cyfraniad a wneir o ganlyniad i'r te parti yng Nghaffi Pen Dinas yn cyfrannu tuag at ein nod o godi arian yng Nghymru - i'w wario yng Nghymru, er budd y gymuned leol. Ers ei sefydlu, mae'r elusen wedi gosod dros 450 o beiriannau diffibriliwr ar draws Cymru, gyda 80 wedi eu lleoli yng Ngheredigion ac mae lle yn y sir i osod rhagor. Rydym hefyd wedi addysgu a hyfforddi dros 15000 o bobl dros Gymru gyfan, sut i ddefnyddio'r offer a sut i achub bywyd person sydd wedi cael ataliad ar y galon."
Mae’r elusen yn awyddus i barhau â’r gwaith o addysgu cymunedau a bydd yr elw a wneir o’r achlysur hwn yn gyfraniad gwerthfawr at yr achos.
Am ragor o wybodaeth
cysylltwch â post@llgc.org.uk
01970 632 471
Gwybodaeth i’r wasg
Calonnau Cymru
Mae cynllun sgrinio calonnau yr elusen wedi gweld bron i 700 o bobl rhwng 12 –37 oed yn y ddwy flynedd ddiwethaf gyda 10% o’r rheiny yn cael eu cyfeirio at ddoctor am ymchwiliad pellach.
Mae Calonnau Cymru yn bwriadu rhoi’r wybodaeth hanfodol i alluogi bobl i achub bywydau, gan gynnwys sut i ddefnyddio diffibriliwr yn ddiogel. Gwybodaeth a all, ryw ddydd, achub bywyd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Calonnau Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
llgc.org.uk
Oriau Agor
Dydd Llun - Dydd Gwener 9:30 - 18:00
Dydd Sadwrn 9:30 - 17:00
Cyffredinol
Bydd Cymdeithas Staff LLGC yn cynnal raffl ar y dydd gyda’r gwobrau isod:
Print toriad leino ‘Ffydd Gobaith Cariad’ yn rhoddedig gan Mari Elin Jones
Cacennau yn rhoddedig gan Caffi Pen Dinas
Casgliad o gardiau cyfarch yn rhoddedig gan Elin Vaughan Crowley
A mwy…