Arwyr!
17.03.2017
Yn 2017 mae Cymru’n dathlu ei gorffennol, ei phresennol, a’i dyfodol anhygoel fel erioed o’r blaen, gydag atyniadau, digwyddiadau a gweithgareddau mewn lleoliadau chwedlonol ar draws Cymru.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn falch o ddathlu’r flwyddyn hon drwy agor arddangosfa newydd Arwyr!
O’r 18fed o Fawrth ymlaen, bydd cyfle i ymwelwyr ddod ‘wyneb yn wyneb’ gydag arwyr Cymru o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol. Yn eu mysg mae portread o Aneirin Bevan gan Andrew Vicari, Gwynfor Evans gan David Griffiths, Ruth Jones gan Malcolm Gwyon ynghyd â holl dîm Pêl Droed Cymru wedi’w beintio gan y Gôl Geidwad Owain Fôn Williams i enwi dim ond ychydig.
Meddai’r Gôl Geidwad Owain Fôn Williams:
"Mae yn anrhydedd enfawr i mi gael y cyfle i arddangos fy ngwaith celf fydd yn rhan o arddangosfa 'Arwyr’ yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae gan Gymru gyfoeth o arwyr a allai ddim meddwl am ffordd well na drwy gyfrwng celf o'u cofio a’u anrhydeddu. Dwi yn gobeithio daw arwyr 'together stronger' ac atgofion melys yn ôl i'r cof. Diolch yn fawr iawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth am y cyfle"
Mae’r arddangosfa ar agor Dydd Llun – Dydd Sadwrn o 9.30a.m tan 5.00 p.m. Pwy yw eich arwr chi?
Gwybodaeth Bellach
Elin-Hâf, 01970 632471 post@llgc.org.uk
Clip Fideo Owain Fôn Williams
Arddangosfa
Arwyr!
18.03.17 – Mawrth 2018
#GwladGwlad