Symud i'r prif gynnwys

Agor yr Archif: sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru

04.05.2017

Mae prosiect arloesol gwerth £9miliwn i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru gam sylweddol yn nes diolch i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol allai fod werth bron i £5 miliwn.

Nawr, gall Llyfrgell Genedlaethol Cymru a BBC Cymru ddatblygu cynlluniau uchelgeisiol i ddarparu mynediad cyhoeddus i archif BBC Cymru mewn pedair canolfan treftadaeth ddigidol a leolir yn Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd. Yn ogystal, bydd mil o glipiau rhaglenni ar gael ar-lein ar gyfer defnydd cymunedol.

Mae’r archif sy’n cynnwys tua 160,000 o eitemau sy’n dyddio nôl i’r 1930au ac yn gronicl amhrisiadwy o fywyd cenedl sy’n cyfannu’r Ail Ryfel Byd, Aberfan, streic y glowyr a’r brwydrau dros ddatganoli. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd yr adnodd hwn yn dangos sut i’r BBC ddiddanu yn ogystal â hysbysu’r cyhoedd gyda chwaraeon, cerddoriaeth, drama a chomedi yn ganolog i’r casgliad gan roi llwyfan i dalentau a phrosiectau mor amrywiol â Grand Slam a Fo a Fe, Shirley Bassey a Meic Stevens, Saunders Lewis a Gwyn Thomas.

Dywedodd Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Glyn Thomas:

“Rydym yn hynod falch bod y Loteri Genedlaethol wedi darparu cyllid cychwynnol i ddatblygu'r prosiect arloesol hwn i sicrhau y bydd archif BBC Cymru ar gael i'r cyhoedd. Fel cartref Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, a gyda deunydd ITV Wales eisoes yn rhan o’n casgliadau, ein bwriad yw diogelu'r ffynhonnell hanesyddol yma ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yn ogystal. Rydym yn ddiolchgar iawn i‘r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth i ddatblygu ein cynlluniau ac i BBC Cymru Wales am drosglwyddo’r archif i'r Llyfrgell.”

Y sbardun ar gyfer cyhoeddiad heddiw yw penderfyniad y BBC i symud i adeilad newydd yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd. O ganlyniad i’r symud, mae BBC Cymru yn prysur ddigido oddeutu 160,000 o eitemau ffilm, teledu a radio a fydd ar gael i’w timau cynhyrchu. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, mae’r Gorfforaeth a’r Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio ar gynllun a fyddai’n gweld yr holl recordiadau gwreiddiol hynny, ynghyd â chopi wedi ei ddigido o bob eitem, yn cael ei roi i’r Llyfrgell yn Aberystwyth.

Mae BBC Cymru Wales yn gwneud ymrwymiad sylweddol trwy ddigido’r archif a byddant yn awr yn cydweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol a phartneriaid eraill i sicrhau mynediad cyhoeddus i'r rhan fwyaf o'u deunydd darlledu.

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru:
“Mae archif BBC Cymru yn rhan ganolog o hunaniaeth a chof ein cenedl – yn adlewyrchu digwyddiadau o bwys am bron i naw deg o flynyddoedd ar draws cymunedau ar hyd a lled ein gwlad. Fe fydd y bartneriaeth ddigynsail yma rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn gwneud yr adnoddau amhrisiadwy yma ar gael i bawb yng Nghymru – archif ddarlledu genedlaethol i’r unfed ganrif ar hugain.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i Olygyddion

  1. Bydd y cynllun yn sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol cyntaf Prydain gyda mwyafrif darllediadau BBC Cymru Wales a rhan fawr o’u harchif gorfforaethol yn cael eu trosglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol eisoes yn gartref i archif ITV Wales ac ITV West.
  2. Mae BBC Cymru Wales wedi ymrwymo’n sylweddol i ddigido’i archif a darparu mynediad cyhoeddus ato, lle bod hawlfraint yn caniatáu, mewn pedair Canolfan Treftadaeth Ddigidol ar draws Cymru.
  3. Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi rhoi arian datblygu i alluogi’r Llyfrgell Genedlaethol a BBC Cymru Wales i gynhyrchu cais manwl a chynllun busnes erbyn mis Mawrth 2018 ar gyfer ystyried grant £ 4.9m mewn cyfarfod o'r Bwrdd CDL yn 2018