Adrodd hanes Ynys Môn yn y Lle Hanes
03.08.2017
Unwaith eto, bydd ymwelwyr i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael y cyfle i ymweld â Y Lle Hanes – gofod sy’n dathlu hanes a threftadaeth unigryw bro’r Eisteddfod.
Partneriaeth yw Y Lle Hanes eleni rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Oriel Môn ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd.
Er mwyn ysbrydoli ymwelwyr o bob oed, bydd arddangosfa, gwrthrychau a llu o weithgareddau apelgar sy’n cwmpasu ystod eang o gyfnodau hanes Cymru.
Ymhlith y prif wrthrychau fydd
- Cadair Eisteddfod Yr Wyddgrug, 1873, a enillwyd gan Hwfa Môn am ei awdl ar y testun ‘Caradog yn Rhufain’.
- Gwisg yr Archdderwydd a wisgwyd rhwng 1986-2009, yn cynnwys Eisteddfod Môn, 1999.
- Atgynhyrchiad o Llyfr Gwyn Rhydderch a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sef un o lawysgrifau pwysicaf Cymreig sy’n cynnwys y casgliad pwysicaf a chynharaf o chwedlau Cymraeg Canol ac eithrio Llyfr Coch Hergest.
- Ailgread o un o gaethgadwyni haearn Llyn Cerrig Bach sydd â haearnau gwddf i ddal pump caethwas neu garcharor.
Trwy gydol yr wythnos, bydd cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn cloddiad archaeolegol ffug, helpu i bwytho croglun cymunedol ar gyfer Llys Llywelyn yn Sain Ffagan a thrin a thrafod casgliadau archaeolegol. Bydd hefyd perfformiadau rheolaidd gan y Cwmni Mewn Cymeriad o ddydd Llun i ddydd Gwener, a fydd yn cyflwyno cymeriadau gwahanol i blant a theuluoedd.
Bydd yr agoriad swyddogol yn digwydd am 3pm ar ddydd Sadwrn 5ed o Awst dan arweiniad yr Aelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth.
Dydd Sul, 6ed o Awst, bydd gweithdai dan ofal Amgueddfa Treftadaeth Bwthyn Swtan ar amser hamdden a diwrnod golchi yn cael eu cynnal, ac yna’r diwrnod canlynol, bydd gweithdy’n cyflwyno ffacsimili o awdl fuddugol Hedd Wyn ‘Yr Arwr’.
Dydd Mawrth, 8fed o Awst, bydd cyfle i fwynhau rhagflas 20 munud o Opera Gymunedol arfaethedig ar fywyd Llywelyn Fawr am 10:30am a 2:30pm a thrwy gydol yr wythnos, bydd amryw o sgyrsiau difyr yn ymwneud â gwahanol agweddau ar hanes Cymru ar y stondin, a hefyd ym Mhabell y Cymdeithasau.
Gall ymwelwyr i'r maes, yn ogystal â'r rheiny nad ydynt yn gallu mynychu’r Eisteddfod ei hun, gael gafael ar wybodaeth am yr holl wrthrychau a arddangosir yn y Lle Hanes yn ystod yr wythnos ar wefan Casgliad y Werin
Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:
"Cawsom ymateb gwych i’r stondin y llynedd yn y Fenni, ac rydym yn falch o fedru uno eto eleni gyda’r cyrff cenedlaethol a lleol eraill i greu Lle Hanes fydd yn unigryw i Fon.
“Mae yna wrthrychau, lluniau a straeon diddorol gan pob un o’r partneriaid sydd ynghlwm a’r Ynys, a braf fydd medru eu rhannu gyda’r ymwelwyr drwy gydol yr wythnos.
“Ein gobaith yw ysgogi pobl i gymryd mwy o ddiddordeb mewn hanes Cymru, ac rydym yn edrych ymlaen i weld beth fydd ymateb ymwelwyr i’r cynnwys eleni.”
Ac meddai Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell:
“Ein nod yw dod â hanes y fyw ar faes yr Eisteddfod a rhannu gyda’r cyhoedd beth o gyfoeth ein casgliadau cenedlaethol”.
Bydd holl weithgaredd y Lle Hanes yn cael ei hadrodd drwy gydol yr wythnos drwy gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #llehanes.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â
Lleucu Cooke – 02920 573175 neu Lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk
neu Heledd Fychan – 07846 294927 – heledd.fychan@amgueddfacymru.ac.uk