Symud i'r prif gynnwys

10 rheswm dros ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru dros wyliau’r Haf

  1. Yn ein harddangosfa, 'Arthur a Chwedloniaeth Cymru', byddwn yn cwrdd â rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar ein chwedloniaeth, ac yn cyflwyno'u storiau ar dudalennau llawysgrifau, ar gynfasau gweithiau celf a thrwy ein harchif sgrin a sain helaeth.
  2. Mae'r adeilad rhestredig Gradd II a’r gerddi, wirioneddol yn safle bendigedig gyda golygfeydd godigog  dros Fae Ceredigion.  
  3. Mae ein rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi dair gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys gwybodaeth am arddangosfeydd, sgyrsiau a chyflwyniadau y Llyfrgell, a gwybodaeth gyffredinol i ymwelwyr.  Beth am ddod i wrando ar y chwedlau tu ôl i’n trysorau gyda’n cyfeillion o Gastell Henllys ar y 29ain o Awst? Digwyddiad ar gyfer y teulu cyfan. Mynediad trwy docyn £4.00
  4. Dewch i fwynhau ein brechdanau amrywiol, panini a tatws trwy’i crwyn, cawl cartref a phrydau’r dydd yng Nghaffi Pen Dinas. Mae diodydd poeth ac oer ar gael drwy’r dydd a beth am flasu ein teisennau cartref godigog?  Os yw'r haul yn tywynnu, prynwch frechdanau a chael picnic ar dir y Llyfrgell.
  5. Ewch ar daith 'Tu ôl i'r Llenni' Beth am daith  'Tu ôl i'r Llenni' sy'n addas ar gyfer pob oedran. Bob dydd Llun am 11.00am Mercher am 2.15pm. Archebwch docyn ar wefan digwyddiadau.llyfrgell.cymru neu drwy ffonio siop y Llyfrgell ar 01970 632548.  Pris tocyn yn cynnwys paned o de neu goffi am ddim yng Nghaffi Pen Dinas!
  6. Mwynhewch ychydig o siopa Mae'r siop yn gwerthu nwyddau o ansawdd uchel gan artistiaid lleol ac o statws cenedlaethol megis Mari Thomas, sydd wedi ennill nifer o wobrau dylunio. Mae gwaith Lizzie Spikes a Valeriané Leblond hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar silffoedd y siop.
  7. Darganfyddwch y ‘Greal Sanctaidd’. Y darn bregus hwn o bren yw’r cyfan sy’n weddill o ddysgl masarn hynafol a adnabyddir fel Cwpan Nanteos.
  8. Cyfle i ddod wyneb yn wyneb gydag Arwyr! Cymru o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol gan gynnwys, tîm pêl droed Cymru, Ray Gravell a Dafydd Iwan.
  9. Gweld Y Llyfr Lleiaf  yn arddangosfa Clawr i Glawr. Mae’n mesur llai na 1mm x 1mm x 1mm.
  10. … neu os am funud o lonydd – beth am ymlacio gyda llyfr da yn un o’n stafelloedd darllen.......

Mae gan y Llyfrgell ddigon o le parcio ac mae’n daith gerdded ddeng munud o ganol y dref neu, fel arall gallwch deithio ar Bws 03 sy’n dilyn llwybr cylchol o ganol y dref, gan alw yn y Llyfrgell Genedlaethol a campws Prifysgol Aberystwyth.

Beth am roi tro ar ein helfa drysor neu ddefnyddio app newydd Chwedlau’r Gorllewin. Holwch yn y dderbynfa am fwy o wybodaeth.

Gwnewch Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o'ch cyrchfannau yn ystod Blwyddyn Chwedlau 2017.

Gwybodaeth gyffredinol