'Yn ôl i'r Dyfodol'
14.03.2016
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn Papurau Shelter Cymru
Mae Shelter Cymru, prif elusen Cymru ar gyfer pobl a chartrefi yn dathlu 35 mlynedd eleni ac wedi rhoi casgliad o ddeunydd yn adrodd hanes y sefydliad a'i ymgyrchoedd ers 1981 i'r Archif Wleidyddol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliad yn amlinellu dogfennau swyddogol gan gynnwys adroddiadau, comisiynau ymholi, codi arian, ymgyrchoedd, crysau-T, posteri, fideos, a ffotograffau.
Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth Cymru. Cesglir cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi, ac effemera printiedig eraill; posteri a ffotograffau; gwefannau a thapiau rhaglenni radio a theledu. Ni chyfyngir ei gweithgareddau i un adran o fewn y Llyfrgell.
Dywedodd Rob Phillips, Archifydd Cynorthwyol, Archif Wleidyddol Gymreig:
"Mae hwn yn gasgliad gwych, sydd wir yn rhoi blas i ni o waith Shelter Cymru dros y tair degawd a hanner diwethaf. Mae'r straeon yn dod yn fyw drwy ffotograffau a recordiadau o bobl yn siarad am eu profiadau personol. Mae ochr ymgyrchu o waith Shelter Cymru hefyd yn cael ei gynrychioli yn dda drwy bosteri, bathodynnau a baneri yn ogystal ag ymdrechion arloesol i ganolbwyntio ar anghenion tai penodol grwpiau fel menywod a phobl ifanc. Bydd yr archif yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes cymdeithasol modern Cymru.”
Ychwanegodd Shelter Cymru:
"Rydym yn falch iawn bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn archifo gwaith Shelter Cymru fel adnodd gwerthfawr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ers ein sefydlu yn 1981, rydym wedi gweithio'n ddiflino dros bobl Cymru a’u helpu i ymladd dros eu hawliau, ac ymgyrchu yn erbyn digartrefedd a thai gwael. Rydym hefyd wedi dylanwadu ar bolisi tai yng Nghymru dros y blynyddoedd i hyrwyddo ein egwyddor sylfaenol bod pawb yng Nghymru yn haeddu cartref gweddus a diogel. Mae'r archif yn dyst i'n gwaith gyda phobl yng Nghymru dros gyfnod o 35 mlynedd ac yn ffordd addas i nodi'r garreg filltir hon. Fodd bynnag, mae’r ymgyrch i roi terfyn ar ddigartrefedd a thai gwael yn parhau "
Gwybodaeth Bellach
Elin- Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Yr Archif Wleidyddol Gymreig
- Mae’r Archif Wleidyddol Gymreig yn rhaglen o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gasglu, storio, catalogio a hyrwyddo deunydd archifol sy’n adlewyrchu bywyd gwleidyddol Cymru. Mae’r Llyfrgell yn dal archifau prif bleidiau gwleidyddol Cymru, gwleidyddion a mudiadau ymgyrchu.
- Archif Wleidyddol Gymreig
- Archif Wleidyddol Gymreig ar Twitter
Shelter Cymru
- Mae Shelter Cymru yn cefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy'n byw mewn tai gwael. Y llynedd, fe wnaeth yr elusen helpu 16,000 o bobl ac mae 120,000 arall wedi defnyddio Gwasanaeth Cyngor Ar-lein Shelter Cymru.
- Elusen Pobl a Chartrefi Cymru yw Shelter Cymru. Mae gennym swyddfeydd ledled Cymru ac rydym yn atal pobl rhag colli eu cartrefi drwy gynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol yn rhad ac am ddim.
- Shelter Cymru
- ShelterCymru ar Twitter