Telyn deires Arglwyddes Llanofer, cadair freichiau Brynmawr ac injan ag enw’r Eisteddfod!
Adrodd stori sir Fynwy yn y Lle Hanes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
26 Gorffennaf 2016
Yn dilyn llwyddiant Y Lle Hanes y llynedd, mae nifer o sefydliadau cenedlaethol Cymru a chymdeithasau hanes lleol wedi dod ynghyd i greu un arall ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Ymysg y partneriaid mae Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Casgliad y Werin Cymru, y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a llawer mwy. Byddant yn annog ymwelwyr i ymgolli yn hanes a threftadaeth gyfoethog bro’r Eisteddfod.
Canolbwynt y stondin fydd arddangosfa yn rhoi blas o hanes Sir Fynwy, hen a newydd, ynghyd â rhai o gymeriadau’r ardal. Hefyd, bydd gwrthrychau gwahanol o gasgliadau Amgueddfa Cymru yn cael eu harddangos bob dydd, sy'n cwmpasu ystod eang o gyfnodau yn hanes Cymru. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal yn ddyddiol i ddod â'r gwrthrychau’n fyw.
Bydd y Lle Hanes, a gydlynwyd eleni gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn agor yn swyddogol am 12pm dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2016 pan fydd Cadw ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg a Gwent yn arddangos y dull traddodiadol o ddefnyddio plethwaith a chlai i adeiladu waliau.
Ar ddydd Llun, 1 Awst, bydd telyn deires Arglwyddes Llanofer ar y stondin yn ogystal ag un o wisgoedd ei thelynores llys. Cwympodd yr Arglwyddes Llanofer dros ei phen a'i chlustiau mewn cariad, yn anad dim, gyda'r delyn deires a'r alawon gwerin a dawnsfeydd gwerin o Gymru. Does dim amheuaeth o gwbl bod Eisteddfodau Y Fenni rhwng 1835 a 1853 wedi chwarae rhan bwysig iawn yn diogelu’r elfennau hynny o ddiwylliant Cymru. Am 3.15pm bydd Celyn Gurden-Williams yn lansio llyfryn ‘Pwy oedd Arglwyddes Llanofer?, a drwy’r dydd bydd cyfle i blant o bob oedran ymgymryd â gweithgareddau wedi eu hysgogi gan yr Arglwyddes.
Y diwrnod canlynol, bydd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru: Adran Llen Gwerin ac Ethnoleg yn siarad am Ddodrefn Brynmawr ym Mhabell y Cymdeithasau 2. Yn y Lle Hanes, bydd cadair freichiau ‘Ynysddu’ a gynhyrchwyd gan y cwmni yn y 1930au yn cael ei harddangos.
Yn ogystal â gweithgareddau, bydd tri perfformiad dyddiol gan y cwmni ‘Mewn Cymeriad’ o’r dydd Llun i ddydd Gwener i gyflwyno rhai o gymeriadau pwysig hanes Cymru mewn ffordd hwyliog i blant ynghyd a sgwrs Lle Hanes yn un o’r Pebyll Cymdeithasau.
Gall ymwelwyr i'r maes, yn ogystal â'r rheiny nad ydynt yn gallu mynychu’r Eisteddfod, ddarganfod gwybodaeth am yr holl wrthrychau a arddangosir yn y Lle Hanes yn ystod yr wythnos drwy wefan Casgliad y Werin.
Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:
"Mae gennym gasgliad cyfoethog o wrthrychau yn ymwneud â Sir Fynwy ac mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle perffaith i rannu'r rhain gyda phobl Cymru.
"Mae hwn yn ddull newydd i ni, cyfuno adnoddau â phartneriaid eraill yn yr Eisteddfod Genedlaethol i geisio creu hyd yn oed mwy o ddiddordeb eleni yn hanes Cymru, a straeon a gwrthrychau sy'n ymwneud â Sir Fynwy yn arbennig.
"Rwy'n edrych ymlaen at weld beth fydd yr ymateb gan ein hymwelwyr i’r fenter newydd hon."
Ychwanegodd Rhian James, cydlynydd y prosiect o Lyfrgell Genedlaethol Cymru:
"Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ei bodd i fod yn cyd-lynu'r Lle Hanes eleni.
“Mae’r fenter gyffrous hon yn rhoi cyfle i ni weithio’n agosach â phartneriaid eraill ac i ddarparu mynediad i’n casgliadau mewn ffordd wahanol.
“Braf yw gweld y casgliadau cenedlaethol yn cael eu hategu gan gyfraniadau ac arbenigedd y cymdeithasau hanes lleol i greu darlun mwy amrywiol a chyfoethog o hanes Sir Fynwy.
“Mawr obeithiwn y bydd pawb yn mwynhau ac yn cael eu hysgogi i rannu eu straeon am y Sir gyda ni."
Bydd holl weithgaredd y Lle Hanes yn cael ei hadrodd drwy gydol yr wythnos drwy gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #llehanes #historyplace.
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Catrin Taylor
Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol
Amgueddfa Cymru
029 2057 3185
07920 027067