Te Parti yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i godi arian at Marie Curie
22.06.2016
Bydd “Blooming Great Tea Party” ar 24 Mehefin 2016, yn codi arian tuag at elusen Marie Curie- elusen sy'n darparu gofal a chymorth i bobl sy'n byw gyda salwch trefynol a'u teuluoedd.
Mae'r digwyddiad rhwng 4.00p.m a 6:00p.m. yng Nghaffi Pen Dinas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cael ei drefnu gan Côr y Gen - côr staff y Llyfrgell.
Bydd Côr y Gen yn cynnal prynhawn o adloniant fydd yn cynnwys 'Te Hufen' i godi arian ar gyfer yr ymgyrch hon.
Pris y tocyn yw £5.00 ac maent ar gael gan yr Uned Hyrwyddo gyda chanran o'r elw yn mynd i Marie Curie.
Bydd pob rhodd a wneir i “Blooming Great Tea Party” yn helpu Nyrsys Marie Curie i ofalu am fwy o bobl sy'n byw â salwch terfynol ar draws y DU.
Dywedodd y trefnydd Rhiain Williams:
"Cawsom ein hysbrydoli i gynnal “Blooming Great Tea Party” er mwyn cefnogi’r achos ac i groesawu pobl i Gaffi Pen Dinas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i fwynhau te hufen ac i gael eu diddanu gan gôr staff y Llyfrgell: Côr y Gen. Rydym yn falch o fod yn cefnogi Marie Curie, elusen i bobl sy'n byw gyda salwch terfynol a'u teuluoedd ".
Mwy o wybodaeth
Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk
Nodiadau i Olygyddion
Mae “Blooming Tea Party” yn ymgyrch codi arian yr haf i Marie Curie sy'n annog pawb i ddod at ei gilydd gyda ffrindiau a theulu i gynnal te parti rhwng 20-29 Mehefin. Mae partîon ar draws y DU wedi codi dros £ 4.5 miliwn ers dechrau'r ymgyrch yn 2008.
Ewch i www.mariecurie.org.uk/teaparty am ragor o wybodaeth, cynghorion ac i gofrestru te parti neu ffoniwch 0800 716 146. Dilynwch y newyddion diweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #BloomingGreat
Marie Curie - gofal a chymorth drwy salwch terfynol
Marie Curie yw prif elusen y DU ar gyfer pobl gydag unrhyw salwch terfynol. Mae'r elusen yn helpu pobl sy'n byw â salwch terfynol a'u teuluoedd i wneud y gorau o'r amser sydd ganddynt gyda’i gilydd trwy gyflwyno arbenigwr gofal ymarferol, cefnogaeth emosiynol, ymchwil a chanllawiau.
Mae Marie Curie yn cyflogi mwy na 2,700 o nyrsys, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a gyda'i naw o hosbisau o amgylch y DU, nhw yw'r darparwr mwyaf o welyau hosbis tu allan i'r GIG.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.mariecurie.org.uk
Hoffwch ni ar www.facebook.com/mariecurieuk
Dilynwch ni ar www.twitter.com/mariecurieuk
Llinell Gymorth Marie Curie 0800 090 2309 *
Os oes gennych chi gwestiynau am salwch terfynol neu ddim ond eisiau rhywun i siarad â, ffoniwch Llinell Gymorth Marie Curie ar gyfer cymorth cyfrinachol am ddim a gwybodaeth ymarferol ar bob agwedd o salwch terfynol.
* Mae galwadau am ddim o ffonau cartref a ffonau symudol.
#BloomingGreat