Symud i'r prif gynnwys

System newydd ar gyfer llyfrgelloedd ledled Cymru yn meithrin rhagor o gydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’n Prifysgolion

27.09.2016

Cynhaliwyd digwyddiad ar ddydd Iau, 22 Medi 2016 yn y Cynulliad i ddathlu system newydd ar gyfer rheoli llyfrgelloedd fydd yn hyrwyddo cydweithio rhwng llyfrgelloedd ar draws gwahanol sectorau yng Nghymru.

Bydd y system newydd, a gaiff ei rhannu gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgelloedd prifysgolion yng Nghymru (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam)a  llyfrgelloedd y GIG, yn arbed arian, yn annog cydweithio ac yn cynnig y posibilrwydd o rannu casgliadau ledled Cymru. Roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn un o’r grwp cyntaf i fynd yn fyw a cwblhaodd Prifysgolion Bangor a Glyndŵr gam cyflwyno'r system yn ddiweddar, yn ogystal â chau pen y mwdwl ar yr amserlen ar gyfer ei rhoi ar waith ledled Cymru.   

System rheoli llyfrgelloedd yw'r dechnoleg sy'n galluogi prifysgolion a llyfrgelloedd eraill i brynu, rhestru, benthyg a dangos eu deunyddiau. Mae consortiwm sydd wedi'i greu gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF, rhwydwaith o lyfrgelloedd prifysgolion a Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a'i reoli gan Brifysgol Caerdydd, wedi cyflwyno systemau Alma a Primo ar draws y sefydliadau sy'n aelodau ohono yn rhan o raglen dair blynedd o hyd. Ex Libris sydd wedi darparu'r systemau.  

Bydd cyflwyno'r system newydd yn llwyddiannus ar draws rhwydwaith WHELF, ochr yn ochr â rhoi cam cyntaf system a rennir ar gyfer rheoli llyfrgelloedd cyhoeddus ar waith, yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad heddiw yn y Senedd gyda Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

Cefnogwyd digwyddiad 'Dathlu cydweithio rhwng llyfrgelloedd' gan lyfrgelloedd cyhoeddus Cymru a Sefydliad Siartredig y Gweithwyr Proffesiynol ym Meysydd Llyfrgelloedd a Gwybodaeth (CILIP, sy'n cefnogi gwaith y Proffesiwn Llyfrgelloedd, Gwybodaeth a Dealltwriaeth). Diben y digwyddiad oedd dathlu cydweithio ehangach ar draws llyfrgelloedd yng Nghymru.

Dywedodd Sue Hodges, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau ym Mhrifysgol Bangor a Chadeirydd WHELF:
"Mae hwn yn llwyddiant rhyfeddol sy'n dangos faint o ymddiriedaeth, ymrwymiad, gweledigaeth a phwyslais ar gydweithio sydd o fewn rhwydwaith WHELF. Hoffwn ddiolch i bob sefydliad sy'n rhan o WHELF ac Ex-Libris am eu hymdrechion arwrol wrth roi'r system ar waith a'i chyflwyno ar amser, a hynny o fewn amserlen heriol dros ben.  Bydd myfyrwyr yn elwa'n fawr ar y system newydd fydd yn ei gwneud hi'n haws iddynt gael gafael ar adnoddau ar gyfer addysgu, dysgu ac ymchwil."

Cyflwynodd y Llyfrgell Genedlaethol y system reoli gwybodaeth newydd ym mis Rhagfyr 2015 ac mae’n barod yn gweld y buddion o fod yn rhan o’r consortiwm.  

Meddai Linda Tomos, Llyfrgellydd Cenedlaethol:
 “Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch dros ben o fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn i gyflwyno system reoli gwybodaeth llyfrgell gwbl ddwyieithog.  Mae’r prosiect yn barod yn cynnig buddion mawr i’n defnyddwyr a byddwn yn parhau i feithrin rhagor o gydweithio ar draws gwahanol sectorau llyfrgelloedd yng Nghymru.”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i olygyddion

Grŵp cydweithredol yw WHELF (Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru) sy'n cynnwys pob un o'r llyfrgelloedd addysg uwch yng Nghymru. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Brifysgol Agored yn aelodau ohono hefyd. Sue Hodges, Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd ac Archifau (Prifysgol Bangor) yw'r cadeirydd, a Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Gwybodaeth a Phenaethiaid Gwasanaethau Llyfrgelloedd yw ei aelodau.

Nod WHELF yw hyrwyddo cydweithio ar draws y gwasanaethau llyfrgelloedd a gwybodaeth, chwilio am fanteision drwy rannu gwasanaethau neu ddod â nhw ynghyd, annog cyfnewid syniadau, rhoi fforwm ar gyfer cyd-gefnogi, a hwyluso cynlluniau newydd wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd, archifau a gwybodaeth.