Symud i'r prif gynnwys

Symposiwm Mapiau Cymru yn edrych ar sut mae mapiau wedi siapio'r genedl

Ar y 27 o Fai 2016 cynhelir Carto-Cymru-Symposiwm Mapiau Cymru 2016: Llunio’r Genedl
yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae Carto-Cymru-Symposiwm Mapiau Cymru 2016: Llunio’r Genedl  yn cael ei gynnal gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a bydd yn gwerthuso rôl mapiau wrth ddarlunio a chreu cenedl fel endid ar y ddaear ac hefyd fel canfyddiad ym meddyliau pobl. Bydd yn archwilio sut mae mapiau wedi siapio'r genedl drwy edrych ar y gororau; daearyddiaeth yr iaith Gymraeg; a chyflawniadau’r mapiwr Dadeni Cymreig, Humphrey Llwyd.

Bydd y digwyddiad hwn yn rhannu'r cyfoeth o ddeunydd cartograffig sydd ar gael i ymchwilwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Yn olaf, bydd yn dangos sut mae technolegau arloesol megis realiti estynedig a rhithwir yn cael eu defnyddio i ddarlunio safleoedd a thirweddau o'r gorffennol.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

"Mae'n briodol bod y symposiwm mapiau yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru cartref i'r casgliad mapiau mwyaf yng Nghymru, ac un o'r mwyaf yn Ynysoedd Prydain ac rwy'n hyderus y bydd yn cynnig y cyfle i arddangos cyfoeth ein casgliad mapiau sy'n perthyn i bobl Cymru”

Mae’r cyflwyniadau yn cynnwys:

Mapping the Marches: Marginal Places and Spaces of Cartographic Innovation
Keith Lilley, Athro Daearyddiaeth Hanesyddol. Prifysgol y Frenhines, Belfast

Shapes of Scotland: Maps, history and national identity
Chris Fleet, Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban

The Military Map Collection of George III: a cartographic record of European wars,
empires won and empires lost

Yolande Hodson, Hanesydd mapiau; catalogydd Mapiau Milwrol Brenin Siôr III, y Casgliad Brenhinol yng Nghastell Windsor

Ail-ddychmygu daearyddiaethau’r iaith Gymraeg
Rhys Jones, Pennaeth Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

Humphrey Llwyd and the map of Wales
Huw Thomas, Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Maps and mapping at the Royal Commission; putting the past in its place
Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-lein, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Meddai Huw Thomas, Curadur Mapiau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad o’r fath. Rydym wedi derbyn adborth bositif iawn ac rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod gwych gyda siaradwyr arbennig”

Gwybodaeth Bellach

Elin-Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

Nodiadau i olygyddion

Mae’r casgliad mapiau yn cynnwys dros filiwn o ddalennau o fapiau, siartiau a chynlluniau yn ogystal â miloedd o atlasau. Dyma’r casgliad mwyaf o fapiau yng Nghymru, ac un o’r mwyaf yn Ynysoedd Prydain. Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddeunyddiau, o’r mapio electronig diweddaraf i fapiau a siartiau ar felwm o’r 16eg. Mae’r casgliad yn arbenigo mewn deunyddiau Cymreig; ond mae ynddo hefyd nifer fawr o eitemau sy’n cynnwys gweddill y byd.

Trwy gyfrwng Adnau Cyfreithiol, mae gan y Llyfrgell yr hawl i dderbyn copi o bob map ac atlas printiedig a gyhoeddir yn Ynysoedd Prydain. Mae newidiadau diweddar i’r gyfraith yn golygu y bydd hyn yn cael ei ymestyn maes o law i gynnwys mapiau electronig yn ogystal, gan gynnwys data sy’n cael ei greu mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

The History of Wales in 12 Maps